Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn y bore yma ar gyfer rhannau o ogledd-ddwyrain Cymru.

Yn sgil y tywydd poeth, mae’r proffwydi’n dweud bod peryg o gawodydd trwm, mellt a tharanau a hyd yn oed gawodydd o genllysg yn hwyr brynhawn heddiw yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio pobol i gymryd gofal yn y gwres mawr a all gyrraedd uchafbwynt o 27C (80.6F) mewn rhannau o Gymru.

Diwrnod poetha’r flwyddyn

Ddoe, cyrhaeddodd y tymheredd 26.3C (79F) mewn rhai ardaloedd o Geredigion a Sir Ddinbych gan dorri’r record am yr adeg yma o’r flwyddyn yng Nghymru.

Roedd hi’n boethach yng Nghymru ddoe nag oedd hi mewn gwledydd tebyg i Malta, Moroco a Brasil.

Y rheswm dros y tymheredd uchel diweddar yw’r gwynt cynnes sy’n chwythu tua’r gogledd o Ffrainc, gan godi’r tymheredd yn gyffredinol ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld y bydd y gwres yn Llundain yn codi i 35C (95F) yn ystod y dydd heddiw.

Mae pryder y gall hyn effeithio ar y gemau tennis yn Wimbledon. Yn ôl yr awdurdodau, os bydd y tymheredd yn codi mor uchel â hynny, bydd hawl gan y chwaraewyr i gymryd seibiant o ddeng munud yn ystod y gêm.

Gofal

Mae arbenigwyr iechyd yn rhybuddio pobol i gymryd gofal yn y gwres, yn enwedig plant ifanc, yr henoed a’r rheiny sydd mewn perygl o ddioddef o wres neu glefyd y gwair.

Maent hefyd yn cynghori pobol i wneud yn siŵr o amseroedd trenau am fod cyfyngiadau cyflymder wedi’u gosod ar rai o’r rheilffyrdd yn sgil pryderon am effaith y gwres ar y traciau metal.