Car y gwerthwr cyffuriau Carl Honey-Jones (llun: Heddlu De Cymru/Gwifren PA)
Dywed Heddlu De Cymru eu bod wedi llwyddo i chwalu rhwydwaith gwerthu cocên yn ardal Abertawe wedi i dri aelod blaenllaw o gang gael eu carcharu ddoe.

Cafodd Carl Honey-Jones ddedfryd o naw mlynedd o garchar, Matthew Jones wyth mlynedd, a  Brian Harding bum mlynedd a hanner gan Lys y Goron Abertawe.

Fe fydd un arall o arweinwyr y gang, Christian Fielding, yn cael ei ddedfrydu ddydd Mercher.

Mae’r dedfrydu’n dilyn cyrch gan yr heddlu ar 27 Tachwedd y llynedd pryd y cafodd 17 o bobl eu harestio,  a gwerth £750,000 o cocên a bron i £60,000 mewn arian parod eu cipio.

Clywodd y llys fod Carl Honey-Jones a’i wraig Donna, a fydd yn cael ei dedfrydu ar 6 Gorffennaf, wedi bod yn byw’n fras ar eu henillion anghyfreithlon.

Ceir moethus

Roedden nhw wedi gwario £40,000 ar eu priodas, yn gyrru o gwmpas mewn ceir moethus â rhifau personol, ac yn byw mewn tŷ gwerth £300,000 yn ardal Penlan, Abertawe – er eu bod mewn swyddi a oedd yn talu isafswm cyflog ac yn hawlio miloedd mewn budd-daliadau.

Wrth groesawu’r dedfrydau, meddai’r Ditectif Arolygydd Bryan Heard o Heddlu De Cymru:

“Fe wnaeth yr ymchwiliad yma ddarganfod cyfundrefn soffistigedig o werthu cyffuriau, gyda’r unigolion hyn yn byw bywydau a oedd yn cael eu hariannu’n llwyr gan eu hincwm o weithgareddau anghyfreithlon.

“Mae eu cyfoeth a’u hasedau bellach wedi cael eu chwalu a thrwy drugaredd fydd y cyffuriau a oedd ganddyn nhw yn eu meddiant fyth yn cyrraedd strydoedd Abertawe.”