Cafodd merch 19 oed a oedd ar goll ei darganfod yng Nghaerdydd neithiwr.
Roedd Victoria Halliday, o Broughton Astley, ger Caerlŷr, wedi bod ar goll ers dydd Mawrth, ac roedd ei mam, Laura, wedi gwneud apêl gyhoeddus am wybodaeth.
Mae Heddlu De Cymru a Heddlu Swydd Gaerlŷr wedi diolch i bawb a helpdd i gael hyd iddi.