Cwpan Rygbi'r Byd
Bydd Cwpan Rygbi’r Byd ar gopa’r Wyddfa a draw yn atyniad Zip World ym Methesda wrth iddo fynd ar daith o gwmpas Cymru heddiw.
Dechreuodd taith y tlws i fyny’r Wyddfa am 10 y bore yma yn Llanberis.
Y prynhawn yma fe fydd y Gwpan yn teithio dros y dyffryn i Chwarel Penhryn, ble fydd yna groeso cynnes gan dros 300 o blant o’r ardal, gan gynnwys 100 o ddisgyblion côr Ysgol Dyffryn Ogwen, a fydd yn cychwyn y digwyddiad yn atyniad Zip World Velocity.
Rygbi Stryd
Fe fydd cyfle yn ystod y digwyddiad i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn digwyddiad Cwrs ‘Rygbi Stryd’- ble fydd tipyn o weithgareddau hwylus i gyd-fynd ag ymweliad y tlws.
Gŵyl Rygbi Parc Eirias
Wrth i’r Gwpan wibio heibio’r Wifren yn Nyffryn Ogwen, fe fydd y Tlws yn glanio ym Mharc Eirias oddeutu pedwar y prynhawn yma ar gyfer Gŵyl Rygbi ym Mae Colwyn.
Webb Ellis yn Yr Wyddgrug a’r Drenewydd
Yfory fe fydd y tlws yn ymweld â Chlwb Rygbi’r Wyddgrug cyn troi am Glwb Rygbi’r Drenewydd yn y pnawn cyn dod i stop yng Nghlwb Rygbi Glyn Nedd.