Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw dynes y cafwyd hyd i’w chorff yn y môr ger Dinbych y Pysgod nos Lun.
Roedd Maryam Cooke yn 63 oed ac yn dod o Newcastle Upon Tyne.
Cafodd ei gweld y tro diwethaf nos Sul.
Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu a bydd yn agor cwest i’w marwolaeth.