Y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford
Mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer canolfan gofal integredig newydd yn Aberteifi.

Dywedodd y byddai’r ganolfan yn “ffordd gyffrous o fynd i’r afael â phroblemau cymunedau gwledig ledled Cymru.”

Bydd y ganolfan, sydd werth £20 miliwn, yn disodli Ysbyty Coffa presennol Aberteifi a Chanolfan Iechyd Aberteifi.

Ym mis Rhagfyr 2013, ymatebodd trigolion lleol yn chwyrn i gyhoeddiad Bwrdd Iechyd Hywel Dda y bydd Ysbyty Aberteifi yng Ngheredigion yn cau ei drysau i gleifion sydd angen aros dros nos.

Ers hynny, mae gwelyau wedi cael eu hail ddarparu mewn cartrefi nyrsio tra bod cynlluniau ar y gweill i adeiladu’r ganolfan newydd.

Adnoddau integredig

Meddai Llywodraeth Cymru y bydd y ganolfan adnoddau integredig newydd yn caniatáu i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio i ddarparu gofal yn agosach at gartrefi pobl.

Bydd y gwasanaethau fydd ar gael yno’n cynnwys:

–          Gwasanaeth practis meddygon teulu a gwasanaeth y tu allan i oriau;

–          Clinigau arbenigol a chlinigau o dan arweiniad nyrsys;

–          Uned ddydd adsefydlu i helpu pobl i allu gwneud pethau eto a gwella annibyniaeth

–          Gwasanaethau i ddioddefwyr dementia a’u gofalwyr;

–          Gwasanaeth mân anafiadau;

–          Radioleg a diagnosteg;

–          Gwasanaeth profion gwaed a phrofion pwynt gofal;

–          Ystafelloedd cleifion allanol gydag ystafelloedd ymgynghori a chyfleusterau triniaeth glinigol ar gyfer rhag-asesu;

–          Ystafelloedd telefeddygaeth, yn darparu mynediad i arbenigwyr.

Bydd y ganolfan hefyd yn gartref i dîm adnoddau cymunedol ardal De Ceredigion sy’n darparu gwasanaethau gofal yn ne Ceredigion, gogledd Sir Benfro a Dyffryn Teifi.

‘Safonau gofal rhagorol’

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, yr Athro Drakeford: “Rwyf yn falch o gyhoeddi’r gymeradwyaeth amlinellol i ganolfan fodern newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn Aberteifi.

“Bydd y cyfleuster pwrpasol hwn yn helpu’r bwrdd iechyd i gyflawni safonau gofal rhagorol i bobl sy’n byw yn Aberteifi a’r cyffiniau.”

“Bydd yn cefnogi ein nod sef darparu gofal yn agosach at gartrefi pobl, ac ar yr un pryd bydd yn lleihau derbyniadau amhriodol i’r ysbyty, cartrefi nyrsio a chartrefi gofal a hynny trwy system integredig o gymorth cymunedol, ymyrraeth gynnar, ail-alluogi a gofal canolradd.

“Mae’r prosiect hwn yn ffordd gyffrous o fynd i’r afael â phroblemau cymunedau gwledig ledled Cymru.”

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn datblygu achos busnes llawn ar gyfer Canolfan Gofal Integredig Aberteifi maes o law.