Neuadd Pantycelyn
Mae Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth wedi dweud bod y “frwydr nesaf yn dechrau” nawr dros neuadd Pantycelyn, ar ôl i Brifysgol Aberystwyth basio cynnig ynglŷn â’i dyfodol neithiwr.

Ddoe fe bleidleisiodd Cyngor y brifysgol o blaid cynnig gan y Llywydd Syr Emyr Jones Parry fydd yn gweld y neuadd breswyl yn cael ei chau am bedair blynedd a’i hailagor ar ôl cwblhau gwaith adnewyddu.

Roedd y cynnig eisoes wedi cael cymeradwyaeth cynrychiolwyr y myfyrwyr a’r ymgyrchwyr oedd yn brwydro i geisio achub y llety.

Dal i bwyso

Ond fe fynnodd Llywydd UMCA Hanna Merrigan ar ôl y cyfarfod y byddan nhw’n parhau i bwyso ar y brifysgol i sicrhau nad ydyn nhw’n torri’r addewid i weld Pantycelyn yn ailagor fel llety ymhen pedair blynedd.

“Mae’n ddiwedd yr ymgyrch mewn un ffordd, ond ar y llaw arall mae’r frwydr nesaf yn dechrau yfory o ran beth rydan ni eisiau o’r Pantycelyn newydd, a’r frwydr i gadw llygad ar y brifysgol i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cadw at eu gair,” meddai Hanna Merrigan wrth golwg360.

Yr ymgyrchwyr yn gadael y neuadd ddoe, a Llywydd UMCA Hanna Merrigan a Dirprwy Is-ganghellor y brifysgol Rhodri Llwyd Morgan yn rhoi eu hymateb hwythau:

Defnydd o’r neuadd

Yn ôl y cynnig gafodd ei basio fe fydd Pantycelyn ar gau am bedair blynedd wrth i’r brifysgol wneud y gwaith adnewyddu angenrheidiol i’r adeilad, gyda’r gobaith y bydd y gwaith hwnnw yn dechrau ym mis Medi 2016.

Yn y cyfamser fe fydd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg y brifysgol yn cael cynnig neuadd Penbryn fel llety dros dro, ac mae rhan o ddatblygiad Fferm Penglais hefyd wedi’i glustnodi ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

Bydd y myfyrwyr Cymraeg hefyd yn cael defnyddio rhai o ystafelloedd cyffredin Pantycelyn am y flwyddyn nesaf, cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.

“Mae ‘na rwystredigaeth bod Pantycelyn ddim am fod ar agor ym mis Medi oherwydd bod gwaith adeiladu ddim yn cychwyn, ond dw i’n meddwl ein bod ni gyd yn gytûn ein bod ni wedi cael y cynnig gorau o ran y brifysgol ar gyfer dyfodol hir dymor Pantycelyn,” ychwanegodd Hanna Merrigan.

Mae staff cyfrwng Gymraeg y brifysgol, oedd wedi cefnogi ymgyrch y myfyrwyr, hefyd wedi croesawu’r cynllun gafodd ei basio gan ddweud y bydd yn “gyfle arbennig i adfywio Pantycelyn”.

‘Datrysiad’ o’r diwedd

Yn ôl un o Ddirprwy Is-gangellorion Prifysgol Aberystwyth, Rhodri Llwyd Morgan, mae’r ffaith bod y brifysgol nawr wedi gallu cynnig amserlen bendant wedi helpu’r ddwy ochr i ddod i gytundeb.

“Ni’n falch iawn ein bod ni wedi dod i gytundeb. Mae Cyngor y brifysgol wedi cymeradwyo’r cynnig gyda chefnogaeth undebau’r myfyrwyr, felly hwnna oedd y datrysiad roedden ni’n chwilio amdano fe,” meddai Rhodri Llwyd Morgan wrth golwg360.

“Rydyn ni’n hapus nawr i symud ymlaen a gweithredu arno fe, bwrw ‘mlaen gyda’r cynlluniau hynny i ddod o hyd i ddyluniad manwl. [Mae’r] broses yn gytûn gyda ni, ac amserlen, achos hynny oedd yn peri llawer o ofid i bobl.”

Cyfaddefodd, fodd bynnag, bod angen i’r brifysgol ailadeiladu ei pherthynas â’r myfyrwyr ac ennill eu ffydd unwaith eto, ychydig dros flwyddyn wedi’r addewid cyntaf i gadw neuadd Pantycelyn ar agor.

“Mae honno yn her sydd yn rhaid i ni wynebu. Mae eisiau i ni fod yn gweithio gyda’n gilydd,” meddai Rhodri Llwyd Morgan.

‘Llygad barcud’

Meddai Gwilym Tudur, cadeirydd Cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith: “Does dim amheuaeth bod yr ymgyrch, a gwaith diflino UMCA, wedi bod yn ysbrydoliaeth i bobl ledled Cymru a thu hwnt.

“Mae’n amlwg bod y fodel yn gweithio i gynhyrchu siaradwyr Cymraeg hyderus sydd gwir ei angen arnon ni fel cenedl. Rydym yn falch o glywed am y sicrwydd o gyllid ac amserlen ar gyfer ailagor y neuadd a ddaeth yn dilyn yr ymgyrchu arbennig.

“Bydd angen i bawb gadw llygaid barcud ar y Brifysgol er mwyn sicrhau eu bod yn cadw at ei haddewidion, nid yn unig o barch i’n hetifeddiaeth gyfoethog, ond er lles y Gymraeg a’r cenedlaethau o fyfyrwyr sydd i ddod.”