Neuadd Pantycelyn
Fe fydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth yn pleidleisio heddiw ar gynnig “tyngedfennol” i ddiogelu Neuadd Pantycelyn fel llety i fyfyrwyr Cymraeg.

Yn dilyn cytundeb ddiwedd yr wythnos diwethaf rhwng Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) a Changhellor y Brifysgol, Syr Emyr Jones Parry, bydd aelodau’r Cyngor yn pleidleisio yn swyddogol tros wneud gwaith adnewyddu ar yr adeilad yn ystod y pedair blynedd nesa’, neu ei gau.

Yn wreiddiol roedd y Brifysgol yn bwriadu cau Pantycelyn ym mis Medi heb unrhyw ymrwymiad i adnewyddu’r adeilad na’i ailagor fel llety Cymraeg.

Ond yn dilyn ymgyrchu gan fyfyrwyr ac eraill dros yr wythnos ddiwetha’, fe wnaeth Syr Emyr Jones Parry gyflwyno cynnig i ailagor Pantycelyn “o fewn pedair blynedd er mwyn darparu llety a gofod cymdeithasol Cymraeg o’r radd flaenaf”.

Llywydd UMCA Hanna Merrigan yn rhoi ei hymateb hi i’r cynnig gafodd ei wneud gan Syr Emyr Jones Parry:

Llais y myfyrwyr

Meddai Hanna Medi Merrigan, Llywydd UMCA 2015-16: “Mae heddiw yn ddiwrnod tyngedfennol i Bantycelyn, bydd pleidlais gadarnhaol yn gam sylweddol ymlaen o ran sicrhau dyfodol hirdymor y neuadd.

“Rydyn ni’n ddiolchgar i Syr Emyr am ei barodrwydd i wrando ar lais y myfyrwyr a gwneud cynnig sy’n eithaf derbyniol i bawb.

“Fydden ni ddim yn y sefyllfa hon heb yr ymgyrchu diflino sydd wedi bod, ac felly mae’n briodol diolch hefyd i bawb a gyfrannodd, mewn unrhyw ffordd, at y frwydr i achub Pantycelyn.

“Rhaid cofio nad yw’r penderfyniad yn derfynol tan i Gyngor y Brifysgol bleidleisio heddiw, ond rwy’n gobeithio y bydd pob aelod o’r Cyngor yn ystyried y gefnogaeth enfawr a ddangoswyd i Bantycelyn yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan fyfyrwyr, staff a phobl Cymru, ac y byddan nhw felly yn cefnogi cynnig Syr Emyr yn y Cyngor heddiw.”

Bydd Llywydd UMCA 2014-15, Miriam Williams, a Llywydd yr Undeb 2014-15, Jacob Ellis, yn cyflwyno deiseb o gefnogaeth i Bantycelyn – sydd wedi cael ei llofnodi gan 2,500 o bobol – yng nghyfarfod y Cyngor cyn y bleidlais.