Mae meddygon yng Nghymru yn teimlo eu bod yn cael eu “bwlio” gan uwch reolwyr os ydyn nhw’n ceisio codi pryderon ynglŷn â safonau  mewn gofal cleifion, yn ôl arolwg newydd.

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru (BMA Cymru), a oedd wedi holi 3,000 o’i haelodau, yn honni bod 58.6% o’r rhai gafodd eu holi wedi mynegi pryder am ddiogelwch cleifion yn ystod y tri mis diwethaf.

Ond dim ond 18.6% a ddywedodd bod eu cwyn wedi cael ei hymchwilio a bod camau priodol wedi cael eu cymryd.

Yn ôl yr arolwg roedd 8.2% yn dweud eu bod wedi cael eu hannog i beidio adrodd am bryderon a dywedodd 39.8% nad oedd unrhyw gamau wedi cael eu cymryd.

Y prif  bryderon ynglŷn â gofal cleifion oedd swyddi nad oedd yn cael eu llenwi (32.5%), cynnydd mewn pwysau gwaith (25.9%) neu ymgyrchoedd i gwrdd â thargedau a chyfleusterau annigonol ( 51.8%).

‘Angen newid agwedd’

Dywedodd Cadeirydd Cyngor y BMA yng Nghymru Dr Phil Banfield bod yr arolwg yn dangos bod  y GIG ymhell o fod yn agored, yn onest ac yn ymateb i bryderon.

“Mae’n bryderus iawn bod mwy na 60% o feddygon gafodd eu holi wedi cael profiad o gael eu bwlio ar ol codi pryderon.”

Ychwanegodd bod “angen newid mewn agwedd a gwerthoedd” ymhlith uwch reolwyr.

Wrth ymateb i’r arolwg gan y BMA dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai holl staff y GIG yng Nghymru gael eu trin gyda pharch ac y dylai holl sefydliadau’r GIG gymryd camau i ymateb i bryderon sy’n cael eu mynegi gan staff yn briodol.

Roedd cyfanswm o 526 o aelodau’r BMA yng Nghymru wedi ymateb i’r arolwg rhwng 27 Mawrth a 16 Mai, 2015.