Tich Gwilym ar y chwith, gydag Eurof Williams
Deng mlynedd i’r diwrnod ers colli’r gitarydd Tich Gwilym mewn damwain drasig, mae un o’i gyfeillion wedi dweud na fyddai safon cerddoriaeth roc Cymreig gystal hebddo.

Mae’r cynhyrchydd Eurof Williams yn cofio’r adeg y clywodd Tich Gwilym yn chwarae am y tro cyntaf mewn tafarn yng Nghaerdydd, cyn ffurfio cyfeillgarwch “annwyl” gyda’r gitarydd dros y blynyddoedd i ddod.

Yn 2005, bu farw’r cerddor yn dilyn tân mewn tŷ yn ardal Canton. Cafodd ei gau yn yr atig ar ôl i fflam o gannwyll ledu.

Fe roddodd ei fywyd i chwarae cerddoriaeth yng Nghymru, meddai Eurof Williams, sy’n ei gofio fel gitarydd fyddai wedi dal ei dir ar yr un llwyfan â mawrion fel Jimmy Hendrix ac Eric Clapton.

Roedd yn aelod o fand Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr.

‘Sefyll mas’

“Y tro cyntaf i fi ei weld e erioed, roedd e’n chwarae yn y New Moon Club yng Nghaerdydd – y tro cyntaf i fi glywed ‘Rhywbeth bach yn poeni pawb’ hefyd. Tich wnaeth y riff, ac mi oedd o’n sefyll mas – ei chwarae mor glir â gyda’r hyder tawel yma oedd ganddo,” meddai Eurof Williams.

“O ran dylanwad, roeddwn i’n ei ystyried fel Cymro Cymraeg. Roedd o’n un ohonom ni a doedd yr iaith ddim yn dod mewn i’r cwestiwn. Roedd o’n gerddor heb ei ail wnaeth, yn fy marn i, godi safon chwarae offerynnol Cymraeg o ran y gitâr drydan. Roedd o’n gallu gwneud i’r gitâr siarad, ac yn ymfalchïo yn ei Gymreictod.

“Y prawf o hynny oedd ei fersiwn o ‘Hen Wlad fy Nhadau’ fel gwnaeth e’, a dyna y dylai bobol gofio amdano – bod Cymreictod mor bwysig.

“Roedd si ei fod o wedi cael cynnig mynd ar daith gyda Joan Armatrading ond ei fod o wedi gwrthod achos ei bod hi’n bwysicach iddo fe gael y cyfle i chwarae yn y Royal Oak yng Nghaerdydd bod nos Sul.

“Roedd o’n ffrind annwyl ac agos i mi, ac fe allet ti wedi ei roi ar y llwyfan hefo unrhyw un o’r mawrion a bydde’i safon o wedi bod cystal. Ond fe roddodd e’i fywyd i chwarae cerddoriaeth yng Nghymru.”