Mae fersiwn o anthem genedlaethol Cymru, gafodd ei hail-sgwennu ar gyfer y Cymry cyntaf aeth draw i Batagonia 140 mlynedd yn ôl, wedi cael ei darganfod.
Daethpwyd o hyd iddo gan ymchwilwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, sy’n honni ar hyn o bryd nad yw haneswyr wedi bod yn ymwybodol ohono tan rwan.
Cafodd yr anthem wreiddiol ei chyfansoddi gan James James i eiriau ei dad Evan James o Bontypridd yn 1856.
Mae ‘Gwlad Newydd y Cymru’ yn seiliedig ar y geiriau a’r dôn honno, ac yn dyddio nôl i 1875.
Dyma’r geiriau:
Y mae Patagonia yn anwyl i mi,
Gwlad newydd y Cymry mwyneiddlon yw hi;
Anadlu gwir ryddid a gawn yn y wlad,
o gyrhaedd gormesiaeth a brad:
Gwlad, gwald, pleidiol wyf i’m gwlad,
Tra haul y nen uwchben ein pau,
O! bydded i’r Wladfa barhau.
Bu’r Cymry yn gorwedd dan ddirmyg yn drwch,
Wel, diolch am Wladfa i’n codi o’r llwch;
Ein heniaith a gadwn mewn urddas a bri,
Tra’r Gamwy’n ddysgleiriol ei lli:
Gwlad, gwald…
‘Chaiff Cymro byth mwyach ymostwng i Sais,
Terfynodd ei orthrwm – dystawyd ei lais;
Y Wladfa fawrygwm tra’r Andes wen fawr
A’i chorryn yn ‘stafell y wawr:
Gwlad, gwlad….