Mae’r canran o bobl sydd yn berchen ar eu cartrefi eu hunain wedi cwympo am y tro cyntaf ers canrif, yn ôl ffigyrau newydd.

Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae 64% o bobl bellach yn berchen ar eu tŷ, cwymp o’r 69% a welwyd yn 2001.

Bellach mae 18% o bobl yn rhentu o’r sector breifat, o’i gymharu â 12% deng mlynedd yn ôl, ac mae’r nifer sydd yn byw mewn tai cymdeithasol wedi cwympo fymryn i 18%.

Dangosodd ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol fod bron i naw o bob deg person ifanc rhwng 16 a 24 oed yn rhentu eu tai, o’i gymharu â llai na chwarter y rheiny oedd rhwng 65 a 74 oed.

Tai yn orlawn, neu ddim yn llawn

Yn ôl y data roedd dros filiwn o gartrefi yng Nghymru a Lloegr yn orlawn, bron i un ym mhob ugain.

Ar y llaw arall, roedd 16.1miliwn (69%) o dai ddim yn llawn, a gyda lle ychwanegol ynddynt, a dim ond rhyw 16% o’r cartrefi oedd â’r nifer safonol o bobl yn byw ynddyn nhw.

Roedd dros 80% o dai oedd yn dan berchnogaeth y sawl oedd yn byw yno ddim mor llawn ag y gallai fod, a dim ond 2% o’r tai hynny oedd yn orlawn.

Yn y sector breifat a thai cymdeithasol roedd 9% o dai yn orlawn, gyda llai na 50% â mwy o le nag oedd ei angen ar y tenantiaid.

Dangosodd y ffigyrau hefyd bod pobl o dras ethnig leiafrifol yn llawer mwy tebygol o fod yn byw mewn tai oedd yn orlawn na phobl o dras gwyn Prydeinig neu Wyddelig.