Sally Holland, y Comisiynydd newydd
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am dorri ei chynllun iaith ei hun yn ystod y broses o benodi Comisiynydd Plant newydd.

Yn ôl Meri Huws, sydd wedi cyhoeddi adroddiad ar y mater, roedd y Llywodraeth wedi methu â dilyn dau gymal o’i pholisi iaith yn ystod y broses recriwtio.

Roedd yr hysbyseb swydd gwreiddiol ym mis Ebrill 2014 yn gofyn am ymgeisydd oedd yn gallu “cyfathrebu’n llafar yn hyderus yn y Gymraeg”.

Ond pan gafodd y swydd ei ail-hysbysebu chwe mis yn ddiweddarach roedd y geiriad wedi newid, a dim sôn o gwbl am y gallu i siarad yr iaith.

Yr Athro Sally Holland sydd bellach wedi cael ei phenodi yn Gomisiynydd Plant newydd i ddilyn Keith Towler – does yr un o’r ddau’n gallu siarad Cymraeg.

‘Diystyru’ y cynllun iaith

Cafodd yr ymchwiliad ei gynnal ym mis Tachwedd 2014 ar ôl i’r Comisiynydd Iaith godi amheuon – y tro cynta’ i Meri Huws gynnal ymchwiliad i Lywodraeth Cymru.

Ar ôl methu â phenodi Comisiynydd Plant ar y cynnig cynta’, fe gafodd y broses recriwtio ei symleiddio, ond yn ôl casgliadau Meri Huws roedd hyn yn torri cymalau 7.2 a 7.3 o gynllun iaith y Llywodraeth.

Yn ôl adroddiad Meri Huws, roedd y penderfyniad yn un bwriadol i anwybyddu’r cynllun iaith a doedd dim tystiolaeth i ddangos pam fod gofynion y swydd wedi newid.

Diweddaru canllawiau

Dyw hi ddim yn ofynnol ar y Comisiynydd Plant i allu siarad Cymraeg, ond mae gofyn i’w swyddfa sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig.

Wrth ymateb i’r adroddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw wedi derbyn argymhellion y Comisiynydd Iaith ac y byddan nhw’n gweithredu ar hynny.

“Rydym yn derbyn argymhellion Comisiynydd y Gymraeg ac rydym wedi diweddaru ein canllawiau wrth benodi i sicrhau fod sgiliau iaith Gymraeg yn cael eu hystyried o ddechrau’r holl broses,” meddai llefarydd.