Mae'r Samariaid yn annog siarad (lluno wefan yr elusen)
Mae Samariaid Cymru wedi cyhoeddi cynllun 4 cam i geisio atal cynnydd yn y bobol sy’n lladd eu hunain.

Maen nhw’n dweud bod hunanladdiad ymhlith dynion yng Nghymru ar ei ucha’ ers i gofnodion ddechrau gael eu cadw fwy na 30 mlynedd yn ôl.

Ac mae’r raddfa – y nifer ym mhob 100,000 o ddynion – fwy na chwarter yn uwch nag yng ngweddill gwledydd Prydain.

Ond mae modd gwneud rhywbeth am y broblem, meddai Cyfarwyddwr Samariaid Cyumru, Sarah Stone, wrth gyhoeddi’r strategaeth newydd.

Y pedwar cam

Y pedwar cam yw:

  • Gwella’r cymorth meddygol gan ei gwneud yn haws i ddynion gael gafael ar driniaethau fel therapïau siarad.
  • Delio gyda cham-ddefnydd o alcohol.
  • Gweithredu’n lleol i dynnu nifer o wasanaethau at ei gilydd.
  • Sicrhau bod gwasanaethau’r Samariaid ar gael yn haws am ddim.

‘Cymhleth’

Mae’r rhesymau am hunanladdiad yn gymhleth, meddai Sarah Stone, mewn cyfweliad ar Radio Wales.

Ac fe alwodd am i’r un sylw gael ei roi i iechyd meddwl ag i iechyd y corff – roedd pethau’n gwella, meddai, ond roedd llawer yn rhagor i’w wneud.

Cefndir

Yn 2013, roedd 317 o ddynion wedi lladd eu hunain a hynny’n golygu 26.1 ym mhob 100,000 o ddynion.

Dyna’r ucha’ ers dechrau cadw cofnod yn 1981 ac mae’r raddfa’n sylweddol uwch na’r 19 ym mhob 100,000 trwy wledydd Prydain.

Ddechrau’r flwyddyn, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun newydd i geisio atal hunanladdiadau a hunan-niweidio.