Fe all cynlluniau i ddod a chymhorthdal ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir i ben olygu bod biliau trydan yn codi, rhybuddiodd ymgyrchwyr heddiw.

Mae’r Ysgrifennydd Ynni, Amber Rudd, wedi penderfynu atal  y cymhorthdal flwyddyn yn gynt na’r disgwyl, er mwyn cyd-fynd ag addewid ym maniffesto’r Ceidwadwyr.

Fe fydd y cymhorthdal yn dod i ben ar 1 Ebrill 2016.

Ond fe all y penderfyniad wynebu adolygiad barnwrol, meddai gwrthwynebwyr sydd wedi beirniadu’r Llywodraeth am ei gwneud hi’n anoddach i bobol gynhyrchu ynni glân ar gost isel.

Mae’r Ceidwadwyr yn honni bod y tyrbinau gwynt “yn aml yn methu a denu cefnogaeth y cyhoedd ac yn methu a darparu’r sefydlogrwydd sydd ei angen ar y sector ynni.”

Ond dywedodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol Carl Sargeant ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae penderfyniad @DECCgovuk yn niweidiol i’r Gymru gynaliadwy rydym ni’n benderfynol o’i weld ac yn bygwth swyddi a buddsoddiad sylweddol.”

3,000 o ffermydd mewn peryg

Fe fydd biliau ynni’r cyhoedd yn codi o ganlyniad i’r newid yn ôl prif weithredwr RenewableUK Maria McCaffery:

“Mae’r Llywodraeth yn ddigon parod i daflu buddsoddiadau arfaethedig i ffwrdd er bod Prydain angen gwella’r ffordd mae’n cynhyrchu ynni ar frys, trwy ddefnyddio gwynt,” meddai.

“Bydd biliau yn codi yn uniongyrchol oherwydd gweithredoedd y Llywodraeth.”

Mae’n debyg bod tua 3,000 o geisiadau cynllunio ar gyfer ffermydd gwynt, nifer ohonyn nhw yng Nghymru a’r Alban, fod mewn peryg yn sgil y cyhoeddiad.

Cymru

Mae 5,061 o ffermydd gwynt ar y tir ym Mhrydain ac mae 12.3% ohonyn nhw yng Nghymru.

Roedd 237 o ffermydd eraill yng Nghymru wedi cael caniatâd cynllunio, ond nid oes sicrwydd y bydd y rhain yn cael eu hadeiladu yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Prydain.

Mae pum fferm wynt yn wynebu ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru, yn Llandinam, Carnedd Wen, Llaithddu, Llanbrynmair a Llanbadarn Fynydd. Fe allen nhw gynnwys rhwng 17 a 65 tyrbin gwynt yn mesur 450 troedfedd o uchder.

‘Erchyllterau’ – AS

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Drefaldwyn Glyn Davies wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Prydain “yn wresog”.

“Ni fyddai’r ffermydd yn cyfrannu nac yn codi gwerth tirwedd Cymru o gwbl. Mae’r cwmnïau y tu ôl i’r cynlluniau yn poeni am eu harian yn unig,” meddai.

“Mae’r Llywodraeth wedi rhoi gormod o arian i ffermydd gwynt ac i’r diwydiant dros y blynyddoedd diwethaf a dw i wedi bod yn brwydro i roi stop ar y prosiectau hyn dwi’n eu hystyried fel erchyllterau.

“Byddai’n well gen i weld ynni yn cael ei greu gan y môr neu gan baneli solar – dydan ni heb fod yn canolbwyntio ar y datblygiadau eraill yma, ddim ond yn taflu arian at ffermydd gwynt.

“Mae pobol wedi cael digon. Roedd cyflwyniad ffals iawn o’r ddadl yn dweud bod y mwyafrif o bobol yn ffafrio ffermydd gwynt, ond dyw’r bobol yn yr ardaloedd fydd yn cael eu heffeithio ddim eu heisiau.”