Leighton Andrews
Bydd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews yn annerch arweinwyr cynghorau Cymru yn Abertawe heddiw i drafod ei gynlluniau i gwtogi nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru.

Ddoe, fe gyhoeddodd Leighton Andrews ei gynlluniau ar gyfer dyfodol y cynghorau lleol, sy’n golygu cwtogi’r nifer o 22 i wyth neu naw, a chynnig dau opsiwn ar gyfer y gogledd.

Mae disgwyl i’r Bil Uno a Diwygio drafft gael ei gyhoeddi yn yr hydref, ac fe fydd ymgynghoriad yn dilyn.

Roedd Comisiwn Williams wedi awgrymu cwtogi nifer y cynghorau o 22 i 12, 11, neu 10.

Wrth siarad gyda The Wales Report neithiwr, dywedodd Leighton Andrews: “Mae’n bryd i gael strwythur llywodraeth leol yn iawn. Rydym wedi gweld methiannau sylweddol mewn llywodraeth leol ym maes addysg a methiannau mewn meysydd fel y gwasanaethau cymdeithasol.

“Rydym yn parhau i weld awdurdodau lleol ym maes addysg dan fesurau arbennig.”

‘Creu awdurdodau lleol cryf’

Ychwanegodd: “Ry’n ni wedi edrych yn ofalus ar hyn ac wedi ystyried argymhellion y Comisiwn Williams ac wedi dod i’r casgliad fod y map yr ydym yn ei gynnig yn well ac fe fydd yn creu awdurdodau lleol cryf a fydd yn darparu gwasanaeth cyhoeddus modern.”

Nid oedd Leighton Andrews yn fodlon dweud un ffordd neu’r llall os fydd yna unrhyw swyddi’n cael eu colli yn benodol o ganlyniad i’r cynlluniau i ad-drefnu llywodraeth leol.

Mae’r cynllun i greu wyth neu naw cyngor mawr yn lle’r 22 presennol, a fyddai’n  dychwelyd i’r hen drefn, wedi cael ei feirniadu gan nifer o arweinwyr  y cynghorau.

Bydd cynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cael ei chynnal yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, y bore ma.