Yr ymgyrchwyr ym Mhantycelyn
Mae myfyrwyr sy’n ymgyrchu i gadw Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth ar agor wedi treulio  eu pedwaredd noson yn yr adeilad.

Fel rhan o’r ymgyrch  mae’r protestwyr wedi cyhoeddi y bydd dydd Sadwrn yn ddiwrnod agored ac mae’r  trefnwyr wedi annog pobl o’r tu allan i ymweld â’r Neuadd i gefnogi’r ymgyrch.

Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal yn ystod y dydd sydd gyda cherddoriaeth gan Swnami a Tecwyn Ifan, ac anerchiad gan Alun Ffred Jones a’r ymgyrchydd iaith Seimon Brooks.

Yn ystod y diwrnod, bydd y beirdd hefyd yn cefnogi’r achlysur gyda Thalwrn y Beirdd yn cael ei arwain gan Tudur Dylan Jones, gyda rhagor o ddigwyddiadau eto i’w cadarnhau.

Dywedodd Heledd Llwyd fod yna wahoddiad i bawb sydd wedi byw ym Mhantycelyn i’r diwrnod agored: “Rydyn ni’n estyn gwahoddiad i bawb sydd wedi byw ym Mhantycelyn, a phawb arall sy’n cefnogi’r ymgyrch i ddod i’r diwrnod agored dydd Sadwrn. Dyma’r penwythnos i achub Pantycelyn!”

Llywydd UMCA Hanna Merrigan ac un o’r ymgyrchwyr Bethan Ruth Roberts yn siarad i Golwg360 am y meddiannu a’r ymprydio yn gynharach yr wythnos hon:

Ymprydio

Yn ogystal â’r diwrnod agored, bydd yr ymgyrchwyr yn dechrau ymprydio brynhawn dydd Sul am ddau o’r gloch i godi ymwybyddiaeth i’r ymgyrch cyn cyfarfod o Gyngor  y Brifysgol  ddydd Llun pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud am ddyfodol y neuadd.

Cadarnhaodd y canwr Bryn Fôn y byddai’n ymuno i estyn ei gefnogaeth ar ddechrau’r ympryd.

Yn ôl Heledd Llwyd: “Mae’n brawf o’r gefnogaeth sydd i’r ymgyrch, a phendantrwydd ein cefnogwyr bod dros hanner cant o fyfyrwyr yn bwriadu ymprydio, sy’n weithred ddifrifol iawn; ynghyd ag aelodau o’r cyhoedd megis Emyr Llew, Dewi Pws, Cleif  Harpwood, Angharad Tomos, Ffred Ffransis, ac eraill.”

Ychwanegodd: “Nid oes terfyn amser wedi ei benderfynu ar gyfer y meddiannu na’r  ympryd; mae’n fwriad gan yr ymgyrchwyr i barhau gyda’r frwydr hyd nes bod y Brifysgol yn barod i gadw at ei haddewidion.”

UMCA

Cyhoeddodd Llywydd UMCA Hanna Merrigan, Llywydd UMCA nad yw eto wedi cael mynediad at ei swyddfa yn y neuadd ar ôl cael ei chloi allan ddydd Llun:  “Fe dreuliais i’r noson ym Mhantycelyn neithiwr gyda’r meddianwyr i ddangos fy nghefnogaeth bersonol i’r ymgyrch.

“Rwy’n dal i ddisgwyl i gael mynediad at fy swyddfa, a hynny ers dechrau yn y swydd ddydd Llun. Rwy’n galw ar y brifysgol i gadw at ei haddewidion, ac i beidio cau’r Neuadd yma sydd mor bwysig i’r Gymraeg yma yn Aberystwyth ac  i Gymru gyfan”.

Mae sawl gwleidydd eisoes wedi cefnogi’r ymgyrch yn erbyn cau’r Neuadd – gan gynnwys yr Aelod Cynulliad lleol, Elin Jones, Alun Davies, Christine Chapman, Aled Roberts, Suzy Davies ac arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood. Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones hefyd wedi dweud nad yw am weld Pantycelyn yn cau.

Cefndir

Mae’r brifysgol wedi argymell cau’r adeilad er mwyn gwneud gwaith atgyweirio angenrheidiol iddi, ac fe fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yng nghyfarfod Cyngor y brifysgol ddydd Llun.

Mynnodd y brifysgol y byddai’r myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn cael eu hadleoli i lety priodol dros dro petai Pantycelyn yn gorfod cau.

Ond mae Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chyhuddo o dorri addewid a wnaeth y llynedd i gadw’r neuadd breswyl ar agor, yn ôl yr ymgyrchwyr iaith.

‘Ymroddedig’

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud ei bod “yn gwbl ymroddedig i ddarparu llety dynodedig cyfrwng Cymraeg.”

Ychwanegodd fod y brifysgol  “yn deall ac yn gwerthfawrogi’r angen am gymuned lle mae’r iaith Gymraeg yn cael ei siarad bob dydd, lle gall y rhai sy’n dysgu’r iaith ymgolli mewn cymuned naturiol Gymraeg, a lle mae gweithgareddau diwylliannol Aelwyd Pantycelyn, gweithgareddau Cymdeithasau Cymraeg a gwaith ymgyrchu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn medru ffynnu.”