Mae Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon, Ann Clwyd wedi galw ar Lywodraeth Prydain i asesu’r effeithiau tebygol ar Gymru pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth alw am adroddiad gan Weinidogion San Steffan, dywedodd Ann Clwyd fod mynediad i “adroddiad gwrthrychol” yn hanfodol.

Galwodd ar Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb i gomisiynu adroddiad a chyhoeddi’r canlyniadau.

‘Angen tystiolaeth’

Wrth ymateb i Ann Clwyd, dywedodd Crabb: “Rwy’n credu eich bod yn codi pwynt defnyddiol a phwysig.

“Mae angen tystiolaeth arnom, rydym am i hwn fod yn benderfyniad wedi’i arwain gan dystiolaeth y mae angen i bobol y DU ei wneud.

“Nid mater ydyw i Swyddfa Cymru gomisiynu adroddiad ond rwy’n tybio y bydd llawer o sefydliadau annibynnol eraill yn edrych ar y fath dystiolaeth ac edrychwn ymlaen at weld canlyniadau hynny.”

Yn ystod y drafodaeth y bore ma, dywedodd Aelod Seneddol Llafur De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty: “Mae mwy na 150,000 yng Nghymru’n dibynnu ar ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd ac o ystyried hyn, a allwch chi ddweud os yw unrhyw aelodau o dîm gweinidogol Cymru yn gefnogwyr neu’n aelodau o’r grŵp Ceidwadwyr dros Brydain?”

Atebodd Crabb drwy ddweud ei fod yn awyddus i ymgyrchu dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl i refferendwm gael ei gynnal cyn diwedd 2017.