Dau opsiwn ar gyfer wyth neu naw awdurdod
Mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews wedi cyhoeddi ei gynlluniau ar gyfer dyfodol y cynghorau lleol, sy’n golygu cwtogi’r nifer i wyth neu naw, a chynnig dau opsiwn ar gyfer y gogledd.

Wrth gyhoeddi’r cynlluniau, dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews: “Mae’r achos o blaid cael  llai o awdurdodau lleol yng Nghymru yn un cryf ac mae wedi ei dderbyn yn helaeth.

“Allwn ni ddim fforddio colli’r cyfle hwn i ddiwygio ac ailffurfio ein cynghorau er mwyn i arian allu cael ei dargedu at wella gwasanaethau rheng flaen.

“Fe fyddwn ni’n gwneud yn siŵr bod  costau gwleidyddiaeth a gweinyddu mewn llywodraeth leol yn cael eu lleihau.”

Y ddau opsiwn yn y gogledd

Mae’r cynnig cyntaf yn gweld Ynys Môn a Gwynedd; Conwy a Sir Ddinbych; a Sir y Fflint a Wrecsam yn uno yn y gogledd, tra bo’r ail yn ystyried uno Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy; a Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam;

Mae’r ddau opsiwn yn cynnig uno’r tair sir, sef Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Byddai’r opsiwn cyntaf yn gweld Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn uno, tra byddai’r ail hefyd yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Mae’r ddau opsiwn yn cynnig uno Caerdydd a Bro Morgannwg yn y de, yn ogystal â Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd.

Yn y canolbarth, mae’r ddau opsiwn hefyd yn cynnig bod Powys yn sefyll ar ei phen ei hun.

‘Nid penderfyniad terfynol’

Ychwanegodd Leighton Andrews: “Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi mwy o eglurder ynghylch patrwm awdurdodau lleol Cymru yn y dyfodol.

“Mae’n nodi pa strwythur sydd orau gennym ar gyfer y De, y Canolbarth a’r Gorllewin ac yn cynnig cyfle i gynnal trafodaeth bellach ynglŷn â’r Gogledd.

“O ran y Gogledd, nid yw’n gwbl glir ai dau ynteu tri awdurdod lleol fyddai orau. Rydym yn teimlo felly bod lle i drafod ymhellach a byddem yn croesawu sylwadau.

“Hoffwn bwysleisio nad hwn yw’r penderfyniad terfynol – yn hytrach, dyma’r cam diweddaraf yn ein trafodaeth gyhoeddus.”

Bil newydd

Mae disgwyl i’r Bil Uno a Diwygio drafft gael ei gyhoeddi yn yr hydref, ac fe fydd ymgynghoriad yn dilyn.

Ond ni fydd y Bil yn trafod cyfyngu ar nifer tymhorau aelodau etholedig, na chwaith gwaredu ar waharddiad sy’n golygu na chaiff swyddogion sefyll ar gyfer etholiad yn eu hawdurdodau eu hunain.

Does dim lle yn y Bil ychwaith ar gyfer prawf cymhwysedd y dylai trosiant cynghorau cymuned fod yn £200,000 o leiaf.

Yn ogystal, yn sgil y symud tuag at lai o gynghorau a’r rheini’n rhai mwy o faint, bydd y terfyn presennol o 75 o aelodau etholedig i bob Awdurdod yn cael ei ddileu.

‘Angen map newydd’

Ond mae Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o geisio atgyfnerthu eu grym.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd llywodraeth leol y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black fod y cynlluniau’n fuddiol i “neb ac eithrio’r Blaid Lafur a’u hymgais i smentio’u safle yng Nghymru a chronni grym ym Mae Caerdydd”.

Dywedodd mai “holl bwrpas sefydlu comisiwn annibynnol Williams oedd gwaredu dylanwad pleidiol o’r broses hon”.

“Os ydyn ni am gael diwygiadau cynaliadwy sy’n para mwy nag 20 mlynedd, yn wahanol i’r ddau ad-drefniant diwethaf, yna rhaid i ni ddechrau o’r dechrau.”

Awgrymodd y dylid creu “map newydd sy’n gweithio, yn hytrach na defnyddio’r un hen flociau adeiladu blinedig”.

Ychwanegodd: “Ni fydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n cefnogi unrhyw ddiwygio ar gynghorau lleol nad yw’n dod â grym yn nes at y bobol nac sy’n newid y drefn bleidleisio.

“Mae pobol wedi diflasu ar y ffordd nad yw eu pleidlais yn adlewyrchu’n gywir pwy sy’n eu cynrychioli, ac mae’r defnydd o’r bleidlais drosglwyddadwy unigol yn yr Alban wedi dangos ei bod yn gweithio ar lefel llywodraeth leol.”

Er ei fod yn gwrthwynebu’r cynlluniau, dywedodd nad oedd modd parhau â’r drefn bresennol o gynnal 22 o gynghorau lleol.

Sir Benfro – ‘brand llwyddiannus’

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Benfro, Jamie Adams ei fod yn poeni am effaith yr ad-drefnu ar “frand llwyddiannus” y sir.

“Mae gen i bryderon ynglŷn â’r niwed y gall yr ad-drefnu ei gael ar frand llwyddiannus iawn.

“Rwy’n cyfeirio at enw Sir Benfro sy’n cael ei adnabod gan y rhai sy’n byw ymhell tu hwnt i’r sir a hyd yn oed y tu hwnt i Gymru.

“Mae nifer fawr o fusnesau  lleol, sy’n ymwneud a thwristiaeth, amaeth, bwyd ac ynni yn dibynnu ar frand Sir Benfro am eu bywoliaeth.

“Rwy’n pryderu y bydd yn dioddef os yw’r cynghorau’n uno, ac yn ystod y cyfnod heriol hwn rwy’n credu y byddai’n ffôl i gamblo gyda’n economi leol.”

Ychwanegodd ei fod yn croesawu rhai o’r mesurau sydd wedi cael eu hepgor o’r cynlluniau gan Leighton Andrews ar ôl iddo ystyried barn llywodraeth leol.

‘Gosod her’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd Dyfodol i’r Iaith mewn datganiad “bod y ffiniau yn gosod her i gynyddu defnydd y Gymraeg ar draws yr awdurdodau newydd, a bydd Dyfodol yn parhau i lobio a chyd-weithio er mwyn sicrhau cynnydd yn hytrach nag unrhyw ddirywiad yn sgil cyhoeddi’r map diwygiedig.”

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol: “Mae’n hanfodol bwysig i ni warchod y gwaith da a gyflawnwyd eisoes, a thrwy hyn osod sylfaen ar gyfer rhannu a chynyddu ymarfer da.

Fel cam cyntaf, mae Dyfodol i’r Iaith yn gofyn am ymrwymiad y bydd unrhyw gyngor newydd yn y gogledd-orllewin yn gweithredu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg fel sy’n digwydd yng Ngwynedd ar hyn o bryd.

Dylid ystyried yn ofalus pa ffiniau fyddai’n addas er mwyn hyrwyddo gweinyddiaeth fewnol cyfrwng Cymraeg. Mae dadl gref o safbwynt polisi iaith o blaid cael tri chyngor yn y gogledd: Gwynedd a Môn, Dinbych a Chonwy, a Fflint a Wrecsam.”

Dyma’r ddau gynnig:

9 Awdurdod Lleol 8 Awdurdod Lleol
Ynys Môn a Gwynedd Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy
Conwy a Sir Ddinbych Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam
Sir y Fflint a Wrecsam Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin
Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful
Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful Caerdydd a Bro Morgannwg
Caerdydd a Bro Morgannwg Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd
Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd

Powys

Powys