Dyfed Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd
Mae cyhoeddiad y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews ei fod eisiau lleihau nifer y cynghorau lleol o 22 i 8 neu 9 wedi hollti barn arweinwyr.

Y llynedd fe awgrymodd Comisiwn Williams y dylid cwtogi nifer awdurdodau lleol Cymru o 22 i 12, 11 neu 10.

Cyhoeddodd Leighton Andrews bore ma ei fod eisiau dychwelyd i’r hen drefn o gael cyn lleied ag wyth neu naw awdurdod lleol er mwyn lleihau costau a gwella effeithlonrwydd.

Byddai’r strwythur wyth cyngor yn golygu bod siroedd cyfagos fel Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion yn uno i greu Dyfed, ac Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn uno hefyd.

Mae dau opsiwn ar gyfer y gogledd. Mae’r cynnig cyntaf yn gweld Ynys Môn a Gwynedd; Conwy a Sir Ddinbych; a Sir y Fflint a Wrecsam yn uno, tra bo’r ail yn ystyried uno Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy; a Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mewn ymgynghoriad ar ddiwygio trefn y cynghorau, dim ond chwe chyngor o’r 22 yng Nghymru wnaeth fynegi diddordeb mewn uno – ond ni wnaeth yr un ohonyn nhw gyflwyno ceisiadau ddigon cryf i wneud hynny, yn ôl y Gweinidog Llywodraeth Leol.
Y Dau opsiwn ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru

‘Perthynas newydd’

Wrth drafod y mater ar raglen Y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru y bore ma, dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards: “Rhaid i ni addasu i’r cyfnod sydd ohoni. Dw i’n awyddus i weld perthynas newydd rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru.

“Dw i’n credu bo ni’n gallu cael model newydd… a symud Cymru yn ei blaen.

“Mae’r cyfnod nesa’n mynd i gostio miliynau o bunnoedd oherwydd toriadau. Ydyn ni eisiau dylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd, neu adael pethau fel bo ni’n gwaedu i farwolaeth yn ara’ bach?”

Er bod arweinydd Cyngor Môn, Ieuan Williams yn cytuno bod angen diwygio, fe ddywedodd nad dychwelyd i wyth cyngor yw’r ateb gorau.

Wrth ymhelaethu ar y berthynas rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru, dywedodd Ieuan Williams: “Mae angen i’r [berthynas] fod yn fwy aeddfed.

“Mae angen rhyw fath o ddiwygio. Mae democratiaeth leol… yn ofnadwy o bwysig. Mae mynd yn ôl i 8 cyngor yn mynd yn groes i hynna. Mae’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud yn sylweddol.”

‘Torri addewid’

Mae’r arbenigwr ar ad-drefnu llywodraeth leol, Heledd Bebb wedi cyhuddo’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews o dorri addewid ynghylch ad-drefnu’r cynghorau.

Dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf: “Gyda’r map fydd yn bodoli, mae Leighton Andrews wedi torri amodau ei gynllun ei hunan.

“Mae’r ffiniau’n torri ar draws ffiniau’r byrddau iechyd… a ffiniau sy’n ein galluogi ni i gael arian Ewrop.

“Mae’n bosib ei fod e wedi edrych yma ar ddinas-ranbarthau. Mae Powys yn aros yr un peth, ond mae rhai eraill yn faint sylweddol.”