Leighton Andrews
Mae AC Ceidwadol wedi dweud bod proses Llywodraeth Cymru o ad-drefnu cynghorau yn “shambls.”
Daw sylwadau Janet Finch-Saunders AC yn dilyn adroddiadau bod disgwyl i gynllun Llywodraeth Cymru i leihau nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru gael ei gyhoeddi gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, yfory.
Y llynedd fe awgrymodd Comisiwn Williams y dylid cwtogi nifer cynghorau Cymru o 22 i 12, 11 neu 10.
Ond mae adroddiadau yn awgrymu bod Leighton Andrews eisiau dychwelyd i’r hen drefn o gael cyn lleied ag wyth awdurdod lleol.
Byddai’r strwythur wyth cyngor yn golygu bod siroedd cyfagos fel Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion yn uno i greu Dyfed, ac Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn uno hefyd.
Yn y gogledd, byddai cynghorau Gwynedd, Môn a Chonwy yn uno.
Mewn ymgynghoriad ar ddiwygio trefn y cynghorau, dim ond chwe chyngor o’r 22 yng Nghymru wnaeth fynegi diddordeb mewn uno – ond ni wnaeth yr un ohonyn nhw gyflwyno ceisiadau ddigon cryf i wneud hynny, yn ôl y Gweinidog Llywodraeth Leol.
‘Camu yn ôl i’r gorffennol’
Dywedodd Janet Finch-Saunders AC, llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr yng Nghymru, bod y broses ad-drefnu “wedi bod yn shambls o’r dechrau i’r diwedd.
“Ni ddylai cynghorau gael eu gorfodi i uno. Ni fydd yn gweithio ac fe fydd yn drychineb.
“Dylai unrhyw newid i strwythur y cynghorau gael ei arwain yn lleol. Os yw cymunedau eisiau hynny – ac os gall gynghorau brofi y gallen nhw hybu effeithlonrwydd drwy uno yna ni ddylai unrhyw un sefyll yn eu ffordd.
“Ond fe fydd yr ad-drefnu yma yn ein gweld yn camu yn ôl i’r gorffennol .”
Fe fydd manylion yr ad-drefnu yn cael eu cyhoeddi cyn cyfarfod blynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddydd Iau yn Abertawe.