Mark Drakeford
Fe fydd gwybodaeth am sut mae gwasanaethau iechyd a chymdeithasol lleol yn perfformio yn cael ei wneud yn fwy hygyrch i’r cyhoedd, gan fod Llywodraeth Cymru yn ailwampio ei wefan.
Ar ei newydd wedd, bydd y wefan yn cynnig gwybodaeth megis nifer yr oedolion sy’n defnyddio’r gwasanaethau ac sy’n derbyn taliad uniongyrchol, yn ogystal â mwy o ddata yn ôl swyddogion.
Cafodd ‘Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol’ ei lansio ym mis Medi 2013.
‘Tryloyw’
Mae’r gwaith diwygio hwn yn cyd-daro â chyhoeddi Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru gan Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru.
Dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol wedi helpu i wella pa mor dryloyw y mae’r Gwasanaeth Iechyd.
“Bydd hefyd yn cynnig cyfrwng i arddangos y dulliau a rennir i fesur y canlyniadau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn sgil fframweithiau canlyniadau’r GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol, gan ddangos yn glir sut mae’r gwasanaethau hyn yn perfformio.”
Hefyd ar y wefan newydd fydd:
- Canran y plant mewn angen sydd wedi derbyn eu holl frechiadau diweddaraf;
- Gwybodaeth am oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau sy’n ymwneud ag iechyd neu ofal cymdeithasol;
- Mynychder yr achosion o droseddau rhywiol;
- Canlyniadau cyfnod allweddol dau a phedwar ar gyfer plant mewn angen;
- Canran y plant Dechrau’n Deg sy’n cyrraedd neu’n rhagori ar eu cerrig milltir ddatblygiadol yn dair oed;
- Canran yr oedolion sydd ag o leiaf un cymhwyster;
- Cyfradd cyflogaeth oedolion dros 50 oed;
- Cyfradd cyflogaeth pobl anabl;
- Canran y bobl ifanc 19 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).