Protestwyr ar do'r adeilad
Mae rhai o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi heddiw eu bod am ymprydio fel rhan o’r ymgyrch i achub Neuadd Pantycelyn.

Bydd yr ympryd yn cychwyn am 2yp ddydd Sul 21 Mehefin, 24 awr cyn cyfarfod Cyngor y Brifysgol ar ddydd Llun, 22 Mehefin pan fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud am y neuadd breswyl.

Dywed myfyrwyr y bydd yr ympryd yn parhau am gyfnod amhenodol.

Mewn datganiad, dywedodd y myfyrwyr: “Byddai’n well gennym osgoi cam mor ddifrifol, ond mae’r myfyrwyr o’r farn bod y cam hwn yn angenrheidiol yn wyneb y bygythiad i Neuadd Pantycelyn ac amharodrwydd y Brifysgol i wrando ar lais y myfyrwyr a phobl Cymru.”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar i bobl gefnogi ympryd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis: “Rydym yn galw ar i bawb gefnogi ymgyrch hollbwysig y myfyrwyr. Bydd nifer o aelodau’r Gymdeithas yn ymuno yn yr ympryd. Rwy’n gobeithio y bydd cefnogaeth eang i’w hymgyrch.”

Protestio ar y to

Y bore ma, fe fu tua phump o’r 15 o brotestwyr sydd wedi meddiannu un o’r ystafelloedd cyffredin yn Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth ers ddoe,  yn protestio ar do’r adeilad.

Mae cyfrif Twitter ‘Ymgyrch Achub Pantycelyn’ yn honni  fod y Brifysgol wedi diffodd cyswllt wi-fi y neuadd ers 9 y bore ma.

Ond mae’r protestwyr yn mynnu “na all hynny ddiffodd cefnogaeth y Cymry!”

Meddai swyddog maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith ac un o’r protestwyr, Bethan Williams, wrth golwg360 heddiw nad yw’r awdurdodau wedi ceisio symud y protestwyr hyd yn hyn a’u bod bellach wedi eu cloi eu hunain yn yr adeilad.

Roedd disgwyl i breswylwyr adael y neuadd erbyn 10  o’r gloch fore dydd Sul ond, heb sicrwydd y bydd y neuadd ar agor ym mis Medi, roedd nifer o fyfyrwyr wedi gwrthod gadael.

Roedd myfyrwyr o Fangor wedi ymuno a nhw neithiwr ar ôl i’r protestwyr gyhoeddi “fod drysau Pantycelyn ar agor i holl bobl Cymru ymuno a ni” meddai Bethan Williams.

Yn y cyfamser, mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Jamie Bevan, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Carwyn Jones yn gofyn iddo ymyrryd er mwyn sicrhau bod neuadd Pantycelyn yn aros ar agor.

Cefndir

Mae’r brifysgol wedi argymell cau’r adeilad er mwyn gwneud gwaith atgyweirio angenrheidiol iddi, ac fe fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yng nghyfarfod Cyngor y brifysgol mewn deg diwrnod.

Mynnodd y brifysgol y byddai’r myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn cael eu hadleoli i lety priodol dros dro petai Pantycelyn yn gorfod cau.

Ond mae Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chyhuddo o dorri addewid a wnaeth y llynedd i gadw’r neuadd breswyl ar agor, yn ôl yr ymgyrchwyr iaith.

‘Ymroddedig’

Roedd llefarydd ar ran y Brifysgol wedi dweud ddoe fod “Prifysgol Aberystwyth yn gwbl ymroddedig i ddarparu llety dynodedig cyfrwng Cymraeg.”

Ychwanegodd fod y brifysgol  “yn deall ac yn gwerthfawrogi’r angen am gymuned lle mae’r iaith Gymraeg yn cael ei siarad bob dydd, lle gall y rhai sy’n dysgu’r iaith ymgolli mewn cymuned naturiol Gymraeg, a lle mae gweithgareddau diwylliannol Aelwyd Pantycelyn, gweithgareddau Cymdeithasau Cymraeg a gwaith ymgyrchu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn medru ffynnu.

“Eisoes mae’r Brifysgol wedi cynnal trafodaethau ac ymweliadau safle gydag UMCA ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i’r llety a’r gofod cymunedol a chymdeithasol a fydd ar gael ar eu cyfer, petai Pantycelyn ddim ar gael.

“Bydd y llety hwn wrth galon campws Penglais ac yn cynnig gofod cymdeithasol a chymunedol hael er mwyn hwyluso parhad yr ymdeimlad o gymuned ar y cyd ymhlith y myfyrwyr.

“Yn y cyfamser, bydd y gwaith o gynllunio dyfodol hir dymor adeilad Pantycelyn yn parhau, a hynny mewn ymgynghoriad llawn gydag UMCA a chynrychiolwyr y myfyrwyr.”