Gwersyll ffoaduriaid o Syria
Dylai Cymru fod yn ailgartrefu o leiaf 326 o ffoaduriaid o Syria, yn ôl dadansoddiad gan elusen  Oxfam.

Mae’r adroddiad ‘Cyfran Deg’ yn cael ei ryddhau mewn digwyddiad cyhoeddus ar risiau’r Senedd heddiw, ar ddiwrnod cyntaf Wythnos Ffoaduriaid.

Mae’r digwyddiad yn cael ei noddi gan Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, ac yn cael ei drefnu gan elusen Alltudion ar Waith, elusen o Gaerdydd sy’n gweithio mewn partneriaeth ac eraill i alw ar awdurdodau lleol ledled Cymru i groesawu o leiaf un teulu o Syria.

‘Cyfran deg’

Dywedodd Leanne Wood fod y ffigwr yn dangos beth yw’r gyfran deg o’r baich ddylai Cymru ei gymryd mewn ymateb i’r argyfwng yn Syria.

Ychwanegodd fod y ffigwr o 326 yn “llai na un tîm rygbi ym mhob awdurdod lleol” a’i fod ond yn golygu “dau neu dri” o deuluoedd ym mhob ardal.

Yn ôl Oxfam, mae Cymru tua’r un maint a Libanus ac ar hyn o bryd mae Libanus yn rhoi lloches i oddeutu 1 miliwn o ffoaduriaid o Syria.

Hefyd yn siarad yn y digwyddiad heddiw mae Dr Sonia Khoury, ffoadur o Syria sydd bellach yn byw yn Llandudno, a Kate Wiggans, Rheolwr Ymgyrchoedd a Pholisi’r Dwyrain Canol i Oxfam y DU, sydd newydd ddychwelyd o Amman a bydd yn adrodd am y diweddaraf o’r rhanbarth.

‘Angen cefnogaeth’

Meddai Camilla Jelbart Mosse, Rheolwr Ymgyrchoedd ar gyfer Ymateb Argyfwng Syria, Oxfam: “Mae pobl sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi’r brwydro ciaidd yn Syria angen cefnogaeth nawr yn fwy nac erioed. Tra bod y ffoaduriaid ry’n ni yn gweithio gyda nhw yng Ngwlad yr Iorddonen a Libanus wedi gobeithio yn ofer i gael dychwelyd i’w gwledydd, does dim arwydd bod yr argyfwng yn mynd i ostegu.

“Mae nifer o deuluoedd nawr yn siarad am roi’r gorau i obeithio ac yn galaru am ddyfodol eu plant; mae’r bobl fwyaf bregus yn ymdrechu i oroesi mewn amodau cynyddol anodd yn y rhanbarth, ac mae cymdogion Syria yn cael eu boddi gan effaith yr argyfwng wrth i bobl gyrraedd yno bob dydd.

“Os byddai gwledydd cyfoethog ledled y byd yn cynnig rhaff achub i’r ffoaduriaid mwyaf bregus, yn unol â’u ‘cyfran deg’, byddai nid yn unig yn newid eu bywydau yn syth, ond yn anfon neges gref i bobl Syria – a’r cymunedau sy’n eu croesawu – ‘dydych chi ddim ar eich pen eich hun’.”

‘Dim croeso i ffoaduriaid yn y DU’ – arolwg

Ond mae ymchwil newydd yn awgrymu fod bron i hanner poblogaeth y DU yn credu na ddylai ffoaduriaid gael eu croesawu yma.

Dywedodd 42% o’r 6,000 a holwyd ar gyfer arolwg barn newydd na ddylai Prydain roi cartref i bobl sy’n ffoi rhag y gwrthdaro neu erledigaeth yn eu gwledydd eu hunain.

Yn ogystal, dywedodd 47% na ddylai’r DU roi lloches i bobl sy’n ffoi o Syria a gwledydd eraill yn y Dwyrain Canol, yn ôl yr arolwg gan YouGov.