Ar ddiwedd diwrnod o gystadlu yn Ngregynog, Powys, mae pump o ddysgwyr wedi ennill lle ar restr fer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Y pump yw:

  • Gari Bevan, Bedlinog
  • Deiniol Carter, Caerdydd
  • Debora Morgante, Rhufain
  • Dianne Norrell, Sir Drefaldwyn
  • Patrick Young, Llan Ffestiniog.

Fe fydd y rhain yn mynd i’r rownd derfynol ar Faes yr Eisteddfod ym Meifod, ddydd Mercher 5 Awst, a bydd canlyniad y gystadleuaeth yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig y noson honno yng Ngwesty Llyn Efyrnwy, Llanwddyn.

Meddai Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod, “Unwaith eto eleni, mae’r safon wedi bod yn eithriadol o uchel yn y gystadleuaeth ac mae’r cystadleuwyr a’r beirniaid wedi cael diwrnod ardderchog yng Ngregynog.

“Mae hanes rhai o’r cystadleuwyr a’u taith i ddysgu Cymraeg yn ysbrydoliaeth, ac mae pawb wedi bod mor frwdfrydig wrth sôn am fynd ati i ddysgu’r iaith.  Gobeithio y bydd y pump yn y rownd derfynol yn ysbrydoli ac yn annog eraill i fynd ati i ddysgu Cymraeg.”