Mae awduron adolygiad annibynnol o gostau gweinyddol cynghorau Cymru wedi casglu bod posib arbed £151 miliwn drwy gwtogi ar eu niferoedd, ac os ydyn nhw yn ymddwyn yn debycach i gynghorau Lloegr.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Leighton Andrews y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, sydd wedi argymell torri nifer y cynghorau yng Nghrymu o 22 i unai 10, 11 neu 12.

Bu awduron yr adroddiad yn adolygu manylion y gwariant ar weinyddu cynghorau ledled Cymru, gan edrych ar faterion fel rheoli eiddo, Technoleg Gwybodaeth a chyllid.

Mae’n ymddangos fod cynghorau wedi gwario tua 5.9% neu £470 miliwn o’u holl wariant ar weithgareddau gweinyddol yn ystod 2013-14. Gwelwyd hefyd bod y gwariant yn amrywio ledled Cymru, o 4% yng Nghonwy a Rhondda Cynon Taf i 10% yn Sir Fynwy.

Lloegr

Un o’r prif awgrymiadau yw y gall y cynghorau wneud “arbedion blynyddol sylweddol” drwy safoni eu dulliau gweithredu a cheisio cadw at lefelau gwariant cyfatebol cynghorau yn Lloegr.

Meddai Leighton Andrews: “Adeg comisiynu’r adolygiad hwn ym mis Tachwedd y llynedd, dywedais yn glir fy mod yn disgwyl i bob awdurdod lleol yng Nghymru ganolbwyntio’r adnoddau cyfyngedig sydd ganddynt ar ddarparu gwasanaethau rheng flaen i ddinasyddion, a lleihau gwariant ar weinyddu a gwasanaethau cefn swyddfa.

“Mae modd gwneud nifer o’r arbedion hyn nawr heb orfod aros am ddiwygiadau strwythurol ehangach i lywodraeth leol yng Nghymru.

“Byddwn yn mynd ati i ystyried argymhellion yr adroddiad, a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i gymharu â gwrthgyferbynnu gwariant a deall lle dylid newid arferion er mwyn trosglwyddo cyfran fwy o’r gwariant i ddarparu gwasanaethau i ddinasyddion.”

Mae adroddiad ar gael yma: http://llyw.cymru/topics/localgovernment/publications/welsh-local-authorities-administrative-cost-review/?lang=cy