Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb
Fe fydd 10 o arweinwyr cynghorau ardal Caerdydd yn cwrdd ag Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb heddiw i drafod ‘cytundeb dinesig’,  a allai roi mwy o bwerau dros wariant a pholisïau i’r ardal.

Mae  Stephen Crabb eisoes wedi cwrdd ag arweinwyr busnes, fel cadeirydd Bwrdd Cynghori Ardal Caerdydd Roger Lewis, i drafod sut y bydd busnesau yn y brifddinas a’r ardal ehangach yn gweld budd o’r cytundeb.

Heddiw, fe fydd arweinwyr  o awdurdodau Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Morgannwg yn cael clywed mwy am y cytundeb.

Cronfa

Fe gafodd y cytundeb dinesig ei chyhoeddi am y tro cyntaf gan y Canghellor George Osborne yn ei Gyllideb ym mis Mawrth.

Bryd hynny, dywedodd Stephen Crabb nad oedd am weld Cymru “yn cael ei gadael ar ôl.”

Y bwriad yw bod cronfa o arian gan Lywodraeth Cymru a’r DU, Cyngor Caerdydd ac awdurdodau lleol eraill yn cael ei chreu, fel y gellir ei fuddsoddi ar faterion  cynllunio, economaidd a thrafnidiaeth.

Ond mae pryderon na fydd Cyngor Caerdydd yn medru fforddio talu eu rhan yn y cytundeb yn wyneb y toriadau ariannol presennol.