Mae Pwyllgor Trwyddedu Cyngor Sir Ddinbych wedi gwyrdroi penderfyniad oedd yn atal gyrwyr tacsis rhag gwisgo siorts i’r gwaith.
Daeth y gwaharddiad i rym ar Fai 1 eleni.
Ond penderfynodd y pwyllgor graffu ar y sefyllfa ar ôl derbyn deiseb â 500 o enwau oedd yn gwrthwynebu’r gwaharddiad.
Roedd y pwyllgor yn awyddus i sicrhau bod gwisg gyrwyr tacsis yn addas at eu pwrpas, a bod safonau uchel yn cael eu cynnal.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Cefyn Williams wrth Golwg360: “Mi ddaru ni benderfynu edrych ar y sefyllfa eto ar ôl i ni dderbyn y ddeiseb.
“Mae’r penderfyniad, wrth gwrs, yn dangos ein bod ni’n gwrando ar ddymuniadau’r cyhoedd.”
Ychwanegodd nad yw manion y sefyllfa wedi cael eu trafod eto, ond y byddai disgwyl i yrwyr tacsis wisgo siorts safonol er mwyn cynnal delwedd broffesiynol.