Kirsty Williams
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi galw am sefydlu corff arolygu gofal iechyd newydd a fyddai’n gwbl annibynnol o Lywodraeth Cymru.

Mae’r blaid yn credu nad yw’r system bresennol ar gyfer sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru yn addas i’r pwrpas ac yn awgrymu fod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cael ei ddisodli gyda system newydd.

Cefndir

Daw’r alwad yn dilyn cyhoeddiad ddydd Llun bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cael ei roi o dan fesurau arbennig yn dilyn methiannau yn y gofal yn ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.

Heddiw, mae prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Trevor Purt, wedi cael ei wahardd o’i waith ar unwaith ac mae disgwyl  i’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford gyhoeddi manylion a goblygiadau’r penderfyniad i roi’r bwrdd o dan fesurau arbennig yn y Senedd yn ddiweddarach.

Dyma’r tro cyntaf i fwrdd iechyd yng Nghymru gael ei roi mewn mesurau o’r fath.

‘Methiant llwyr’

Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru fod y methiannau yn y gofal yn ward iechyd meddwl Tawel Fan yn dangos “methiant llwyr” y systemau a ddylai fod ar waith i amddiffyn pobl sydd fwyaf agored i niwed.

Meddai Kirsty Williams AC: “Mae’n briodol fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael ei roi o dan Fesurau Arbennig, ond dylai corff arolygu newydd allu cymryd y penderfyniad hwn heb ei gyfeirio at weinidogion.

“Byddai ein corff arolygu yn cael ei arwain gan brif arolygydd newydd ar gyfer ysbytai a gofal iechyd. Gallai ef neu hi gynnal arolygiadau wedi’u targedu mewn ymateb i bryderon ansawdd ac arolygiadau rheolaidd o bob ysbyty yn rheolaidd.”

Cynlluniau

Fel rhan o’r cynlluniau i sefydlu corff arolygu gofal iechyd newydd, byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn:

–          penodi prif arolygydd ar gyfer ysbytai a gofal iechyd;

–          rhoi cymorth i staff a chleifion drwy gyflwyno mecanweithiau ar gyfer datgelu pethau sy’n mynd o’i le er mwyn annog diwylliant o fod yn agored ac yn dryloyw;

–          diwygio’r drefn o wneud cwynion er mwyn sicrhau mwy o annibyniaeth ac adfer ymddiriedaeth cleifion a’u teuluoedd yn y GIG.

–          cyflwyno arolygiadau sydd wedi cael eu harwain gan glinigwyr a chyda mewnbwn sylweddol gan gleifion.