Roedd embaras i Ysbyty Plant Arch Noa yng Nghaerdydd yn dilyn seremoni ddoe i anrhydeddu’r gantores fyd-enwog, y Fonesig Shirley Bassey.

Roedd y gantores o Gaerdydd yn bresennol wrth i’r ysbyty ail-enwi rhodfa fel cydnabyddiaeth iddi am ei chyfraniad i’r ysbyty.

Ond mae’n ymddangos nad oedd yr ysbyty wedi sylwi bod y Gymraeg – oedd yn dweud “y Fonsig Shirley Bassey” – yn wallus.

Mae’r ysbyty wedi addo ymchwilio i’r gwall, ond does dim disgwyl i’r arwydd gael ei gywiro tan ddechrau’r wythnos nesaf.