Jerry Collins
Yn ôl adroddiadau mae merch fach y chwaraewr rygbi Jerry Collins yn dechrau dangos arwyddion o wellhad ar ôl cael ei hanafu’n ddifrifol mewn damwain car lle bu farw ei rhieni.

Cafodd cyn-flaenasgellwr y Gweilch a Seland Newydd a’i wraig, Alana Madill, eu lladd mewn damwain car yn Ffrainc yn oriau man bore dydd Gwener.

Cafodd eu merch tri mis oed Ayla ei chludo mewn hofrennydd i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Yn ôl rheolwr Jerry Collins, Tim Castle, mae Ayla yn parhau mewn cyflwr difrifol ond wedi “gwella rhywfaint” dros nos.

Mae’n debyg mai ei wraig, Alana Madill, fu’n gyrru’r car, tra bod Jerry Collins, 34,  yn eistedd yn y cefn, pan fu eu cerbyd mewn gwrthdrawiad a bws yn nhref Beziers yn ne Ffrainc tua 3yb ddydd Gwener.

Ni chafodd unrhyw un oedd yn teithio ar y bws eu hanafu.

Yn y cyfamser mae llu o deyrngedau wedi cael eu rhoi i gyn arwr y Gweilch a’r Crysau Duon.

Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Awstralia Bill Pulver ei fod yn “un o’r chwaraewyr gorau erioed i wisgo crys yr All Blacks.”

Dywedodd un o arwyr y Crysau Duon Jonah Lomu ar Twitter: “rest in peace my brother JC (and) your lovely lady. You will be surely missed. Prayers to your little (girl).”

Roedd Jerry Collins  wedi ennill 48 o gapiau dros y Crysau Duon yn ystod ei yrfa, gan arwain y tîm fel capten dair gwaith.

Rhwng 2009 a 2011 fe chwaraeodd dros ranbarth y Gweilch, gan ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn y tîm yn 2010.