Mae athrawes ym Mhatagonia yn galw ar S4C i’w gwneud yn haws i wylio eu rhaglenni yn y Wladfa, a hynny er mwyn hybu’r Gymraeg yno.

Roedd Ann-Marie Lewis a’i gŵr Fabio Lewis, Swyddogion Datblygu’r Gymraeg yn Nyffryn Camwy, “wrth eu boddau” eu bod wedi gallu gwylio rhaglen ddiweddar Huw Edwards ar Batagonia.

Sgrifennodd neges ar ei thudalen Facebook nad oedden nhw, fodd bynnag, yn gallu gwylio unrhyw raglen arall yno trwy Clic ac erfyniodd ar bawb i rannu ei neges er mwyn sicrhau bod Clic yn gweithio yn y Wladfa.

Eglurodd y buasai’r gwasanaeth yn y Wladfa yn “amhrisiadwy” er mwyn dal ati i hyrwyddo’r Gymraeg yno.

Cyw

“Does dim syniad gen i pam nad ydym yn gallu gwylio Clic yma – mae modd gwrando ar Radio Cymru,” meddai Ann-Marie Lewis.

“Roedden ni wedi gallu gwylio rhaglen Patagonia Huw Edwards ar S4C Clic nos Sul felly mae’n amlwg ei fod yn bosib i S4C ddarparu’r gwasanaeth yn ddigon didrafferth.

“Dw i eisiau ein bod ni yn gallu gwylio rhaglenni S4C yma – popeth. Mae fy mhlantos innau wedi tyfu lan gyda Cyw [rhaglenni plant] ac wedi dysgu cymaint trwy wylio’r rhaglenni ac wrth eu boddau gyda’r caneuon a’r cymeriadau.”

Adnoddau prin

Yn ei gwaith fel athrawes yn Ysgol Gymraeg y Gaiman, mae Ann-Marie Lewis eisoes wedi bod yn gwylio hen gyfres Sam Tân gyda’r disgyblion, ac mae hynny’n ffordd dda iawn iddyn nhw ddysgu Cymraeg, meddai.

“Mae plant yn dysgu cymaint diolch i’r rhaglenni addysgiadol sydd ar y teledu ac rydym yn gweithio’n galed i hyrwyddo’r Gymraeg yma.

“Gyda’r gaeaf yn nesáu yma byddai modd cynnal sawl noson yn gwylio drama, ffilm ac ati. Mae’r adnoddau newydd cyfredol sydd gennym yn brin.”

Dywedodd S4C mai hawliau darlledu sy’n rhwystro rhaglenni Cyw rhag cael eu dangos ym Mhatagonia ar hyn o bryd.

“Er bod y gallu technegol bellach yn bodoli i wneud hyn, mae yn ddibynnol ar gael yr hawliau dosbarthu byd-eang,” meddai Elin Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C.

“Rydym wedi bod mewn trafodaethau gydag amryw ddeiliaid hawliau ers cryn amser i geisio sicrhau’r hawliau ac yn obeithiol y byddwn mewn sefyllfa yn weddol fuan i gynyddu’r rhaglenni sydd ar gael yn rhyngwladol ar wefan S4C.”