Saith Oes Efa
gan Lleucu Roberts sydd wedi taro deuddeg hefo darllenwyr golwg360 ac wedi ennill gwobr Barn y Bobl yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2015.

Cyhoeddwyd enw’r awdur buddugol gan brif weithredwr golwg360 Owain Schiavone mewn seremoni fawreddog yn Galeri, Caernarfon heno.

Mae’r gyfrol, a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Sir Gâr 2014, yn gasgliad o saith stori fer sy’n cael eu hadrodd o safbwynt saith o ferched o wahanol oedran, mewn saith tafodiaith wahanol.

Non Tudur yn sgwrsio â Lleucu Roberts ar ôl ei buddugoliaeth:

Cefndir

Magwyd Lleucu Roberts yng Ngheredigion ond erbyn hyn mae hi’n byw yn Rhostryfan, ger Caernarfon.

Hi oedd y person cyntaf i gipio dwy o’r prif wobrau rhyddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014, pan enillodd y Fedal Ryddiaith a Gwobr Daniel Owen gyda’r nofel Rhwng Edafedd.

Mae hi hefyd wedi ennill gwobr Tir na n-og ddwywaith.

Nofel Awst yn Anogia gan Gareth F. Williams ddaeth yn ail yn y bleidlais a chyfrol farddoniaeth Un Stribedyn Bach gan Rhys Iorwerth ddaeth yn drydydd.

Cyhoeddi Lleucu Roberts fel enillydd Barn y Bobl: