Vaughan Hughes pan oedd yn Gadeirydd
Mae cynghorydd amlwg wedi croesawu’r cyhoeddiad fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod yn ôl i Ynys Mon yn 2017 gan ddweud y bydd yn atgyfnerthu Cymreictod yr Ynys.

Wrth siarad gyda Golwg360, dywedodd Vaughan Hughes – cadeirydd y cyngor y llynedd – y bydd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn yn dangos i weddill Cymru mai dyma un o’r mannau mwya’ Cymreig.

“Mi fydd hwn yn gyfle i Ynys Môn atgyfnerthu ei Chymreictod a dangos i Gymru gyfan, yn groes i’r ddelwedd gyhoeddus mai’r ynys hon ydi’r Gymreiciaf sydd i’w chael. Mi oedd llwyddiant ysgubol Eisteddfod Môn fis Mai yn dangos sut mae pobl Môn yn gallu trefnu eisteddfod gofiadwy.”

Effaith ddiwylliannol

Roedd Vaughan Hughes yn teimlo y byddai effaith diwylliannol yr Eisteddfod yn barhaol ar Fôn Mam Cymru.

“Beth fydd rywun yn obeithio ydi y bydd pobl wedi’u tynnu i mewn i ddiwylliant Cymraeg gan yr Eisteddfod ac y bydd effaith hynny’n parhau.”

Wrth ragweld y gwaith o godi arian ar gyfer yr Eisteddfod yn 2017, roedd Vaughan Hughes yn hyderus y byddai’r Ynys yn cyrraedd y nod ariannol,  “Dw i’n berffaith sicr y bydd yr ynys gyfan yn rhoi ei ysgwyddau wrth y gwaith o godi arian ac y bydd yna weithgarwch mawr.”