Leanne Wood

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi cael ei beirniadu gan ei phrif wrthwynebydd am ei bwriad i sefyll mewn sedd etholaethol a rhanbarthol yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesa’.

Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews, sy’n cael ei herio gan Leanne Wood yn etholaeth y Rhondda, bod Leanne Wood yn “cymryd mantais” o ddeddf newydd.

Fe gadarnhaodd Plaid Cymru y bydd enw yr arweinydd hefyd ar y rhestr ar gyfer sedd ranbarthol Canol De Cymru – hynny i geisio sicrhau sedd iddi, hyd yn oed os na fydd yn ennill yn y Rhondda.

Y cefndir

Mae Leanne Wood wedi cynrychioli Canol De Cymru ers 2003 ac roedd hi wedi cyhoeddi y llynedd y byddai hi’n debygol o sefyll ar gyfer y rhanbarth a’r etholaeth pe bai ganddi’r hawl.

Fe ddaeth hynny’n bosib ar ôl pasio deddf yn dileu’r gwaharddiad ar sefyll mewn mwy nag un sedd.

Pe bai hi’n ennill sedd etholaeth y Rhondda, y nesa’ ar restr Plaid Cymru fyddai’n cymryd sedd ranbarthol.

Cymryd mantais’

“Dim ond yn y Rhondda y bydda’ i’n sefyll,” meddai Leighton Andrews.

“Os yw eraill eisiau cymryd mantais o ddeddf newydd y Ceidwadwyr a sefyll mewn dau le, dw i ddim yn meddwl y bydd pobol y Rhondda yn falch iawn.”

Mae’r AC Llafur Alun Davies hefyd wedi dweud ei fod yn “siomedig” gyda phenderfyniad Leanne Wood.