Mae cynllun uchelgeisiol gwerth £30 miliwn, sy’n anelu at ddod o hyd i swyddi i oedolion di-waith, wedi cael ei gyhoeddi gan y Gweinidog Cymunedau Lesley Griffiths.

Y gred yw y bydd y cynllun yn rhoi cymorth i 6,000 o bobol dros 25 oed i ddod o hyd i swyddi, yn ogystal â rhoi cefnogaeth i 35,000 o bobol dros y tair blynedd nesa.

Daw £18miliwn o’r cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd ac mae’r cynllun hefyd yn cael ei gefnogi gan Jobcentre Plus.

Bydd pwyslais ar helpu pobol yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, yn ôl y Llywodraeth.

Cefnogaeth

“Rwy’n hyderus y bydd y cynllun uchelgeisiol hwn yn cael effaith hirdymor ar filoedd o bobol sydd wedi bod allan o waith am fisoedd os nad blynyddoedd,” meddai Lesley Griffiths.

“Bydd cefnogaeth un-i-un gan fentoriaid profiadol yn rhoi hyder i bobol a’r cyngor maen nhw’i angen i gael swydd.

Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt: “Mae’r buddsoddiad am fod yn gymorth i godi dyheadau a thaclo tlodi, drwy gefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn angen.”

Mae cynllun arall i ddilyn fydd yn cefnogi pobol 16-24 oed i ddod o hyd i swyddi.