“Siomedig ond nid yn annisgwyl” oedd ymateb Radio Beca i benderfyniad Ofcom i ddiddymu eu trwydded ddarlledu.

Roedd disgwyl i Radio Beca wasanaethu tair sir y gorllewin – Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro – ond roedden nhw wedi gohirio’u dyddiad lansio fis Ebrill y llynedd.

Roedd Ofcom wedi rhoi’r drwydded i’r orsaf ym mis Mai 2012, ac roedd ganddyn nhw gyfnod o ddwy flynedd o’r dyddiad hwnnw i ddechrau darlledu.

Gwnaeth Radio Beca gais ddwywaith i ohirio’r dyddiad ac fe benderfynodd Ofcom ddiddymu’r drwydded yn gyfan gwbl wedi hynny.

Doedd yr orsaf ddim wedi gallu sicrhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru ac roedd amheuon ynghylch ei dyfodol yn y tymor hir.

Dim ond £20,000 roedden nhw wedi gallu codi o’r £320,000 fyddai ei angen – ond maen nhw hefyd wedi gwneud cais am £100,000 gan Gronfa’r Loteri Fawr.

‘Nid yn annisgwyl’

Yn eu cais i Ofcom, dywedodd Radio Beca eu bod nhw’n awyddus i fanteisio ar gyhoeddi’r ddogfen ‘Iaith Fyw: Iaith Byw’ Llywodraeth Cymru, oedd yn nodi bod cynyddu oriau darlledu cyfrwng Cymraeg ar y radio y tu hwnt i’r BBC yn un o amcanion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Radio Beca, Lowri Jones: “Roedd y penderfyniad yn siomedig ond nid yn annisgwyl.

“Ond dyw e ddim yn ddiwedd y byd o bell ffordd, ac mae angen trafod y cam nesaf gyda’r aelodau cyn symud ymlaen.”