Fe fydd chwech o Ganolfannau Cymraeg ac Ardaloedd Dysgu newydd yn cael eu creu i hybu’r defnydd o’r iaith ledled Cymru, cyhoeddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones heddiw.

Gyda chymorth o fwy nag £1.5m o gyllid cyfalaf gan y Llywodraeth, bydd y canolfannau iaith yn cael eu datblygu i ganiatáu i bobol o bob oed “fyw, dysgu a mwynhau yn y Gymraeg”.

Y canolfannau fydd yn cael cymorth yn ystod rownd ariannol 2015-16 yw:

  • Cyngor Ynys Môn (£58,843) i ddatblygu canolfan gyfathrebu ar gyfer pobl ifanc
  • Cyngor Caerdydd (£400,000) i drawsnewid yr Hen Lyfrgell yn yr Aes yn Ganolfan Gymraeg amlbwrpas
  • Cyngor Sir Ceredigion (£150,000) i ddatblygu canolfan drochi i hwyrddyfodiaid yn Nhregaron, a fyddai hefyd yn ganolfan i’r gymuned ehangach
  • Cyngor Gwynedd (£300,000) i greu Canolfan Gymraeg amlbwrpas yng nghanol Bangor
  • Coleg Ceredigion (£300,000) i ddatblygu canolfan amlbwrpas yn Aberteifi
  • Academi Hywel Teifi (£300,000) i ddatblygu Canolfan Gymraeg amlbwrpas ym Mhontardawe.

‘Rôl allweddol’

Ers mis Awst 2014, mae’r Grant Buddsoddi Cyfalaf wedi helpu i ddatblygu deng Canolfan Gymraeg newydd ledled Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi y caiff chwech o Ganolfannau Cymraeg newydd eu creu ledled Cymru gyda chymorth mwy nag £1.5m o gyllid cyfalaf.

“Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd sydd wrth wraidd gweledigaeth Bwrw Mlaen. Bydd datblygu’r canolfannau amlbwrpas ac ardaloedd dysgu hyn yn chwarae rôl allweddol i’r perwyl hwn.

“Bydd y canolfannau hyn yn cynnig pob math o gyfleoedd i bobol o bob oedran ddefnyddio, ymarfer a mwynhau’r iaith ar lawr gwlad.  Rydym eisoes wedi gweld canolfannau cyffrous yn cael eu datblygu ledled Cymru drwy’r Grant Buddsoddi Cyfalaf, gan ddangos ein hymrwymiad i weld yr iaith yn ffynnu yn ein cymunedau.

‘Pwerdai i’r iaith’

Mae mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu’r buddsoddiad: Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith: “Ein gobaith yw gweld canolfannau’n cael eu sefydlu ledled y wlad, yn bwerdai i’r iaith.

“Daw y datganiad hwn â ni gam ymlaen at wireddu ein gweledigaeth. Gobeithiwn yn ogystal y bydd yn gam cyntaf tuag at strategaeth newydd ac ehangach i ddysgu Cymraeg i oedolion.”