Bryn Terfel
Mae’r canwr roc Sting a’r delynores Catrin Finch ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio mewn  cyngerdd arbennig i ddathlu pen-blwydd Bryn Terfel yn 50 oed.

Fe fydd y gynulleidfa yn Neuadd  Albert  yn Llundain ar 20 Hydref hefyd yn cael eu diddanu gan y ddwy soprano Danielle de Niese a Rebecca Evans, y canwr sioe gerdd Daniel Evans, y delynores Hannah Stone a’r drwmpedwraig Alison Balsom.

Ar y noson, fe fydd ystod eang o ganeuon ac arias i’w clywed i gyfeiliant cerddorfa Sinfonia Cymru dan arweiniad Gareth Jones.

“Mae’r sioe yma i gyd am y gerddoriaeth sy’n bwysig i mi, ac mae’r cyfle i berfformio gyda chymaint o ffrindiau talentog yn wych,” meddai Bryn Terfel.

“Rwyf wedi bod yn lwcus i gael gweithio ym myd opera, cerddoriaeth glasurol, sioeau cerdd a hyd yn oed pop, ac mae’r digwyddiad yma yn rhannu’r gorau o’r meysydd hynny i greu noson fythgofiadwy.”