Fe fydd pobol sydd eisiau dysgu’r Gymraeg yn ardal Dyffryn Nantlle yn cael eu paru a’u mentora gan siaradwyr rhugl, fel rhan o gynllun newydd gan grŵp cymunedol Dyffryn Nantlle 2020.
Mae’r grŵp yn chwilio am 20 o wirfoddolwyr rhugl i fod o’n rhan o brosiect Cefnogi, a’r bwriad yn y pen draw fydd gwneud yn siŵr nad iaith sydd yn cael ei defnyddio yn y dosbarth yn unig yw’r Gymraeg.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Cymuned Llanllyfni, fe fydd y cynllun yn cael ei lansio ar 9 Mehefin yn Llyfrgell Penygroes.
Cefnogaeth
Un o’r bobl tu ôl y cynllun yw Justin Davies o Benygroes. Dywedodd:“Does dim angen cael sgil arbennig i wirfoddoli, dim ond bod yn barod i gymdeithasu gyda dysgwr am o leiaf awr yr wythnos.”
Roedd Dyffryn Nantlle 2020 yn un o’r grwpiau a gymrodd ran yn ymchwil cyn Fwrdd yr Iaith yn Nyffryn Nantlle dair blynedd yn ôl.
“Un o’r pethau oedd yn amlwg yn y trafodaethau oedd, er gwaethaf y gwaith arbennig gan ddarparwyr cyrsiau Cymraeg, nad oedd dim yn digwydd gyda’r darparwyr i gefnogi pobol i ddefnyddio’r iaith tu allan i’r dosbarth,” meddai Ben Gregory o Ddyffryn Nantlle 2020.
“Mae un tiwtor yn Nhalysarn wedi bod yn ei wneud ers sawl blwyddyn, ar ei liwt ei hun, felly ’da ni’n ceisio creu strwythur i bob dysgwr yn yr ardal, trwy ddefnyddio un o brif gryfderau’r Dyffryn – pobol sy’n siarad Cymraeg yn barod.”
Fe all unrhyw un sydd eisiau gwirfoddoli gysylltu â 01286 479093 neu post@cefnogi.co.uk.