Catrin Brooks
Mae Eisteddfod yr Urdd yn “rhan o DNA Cymru” bellach, yn ôl y cynhyrchydd teledu Catrin Brooks.

Dywedodd Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili heddiw bod yr ŵyl ieuenctid yn cynnig cyfleoedd unigryw i bobol ifanc yng Nghymru.

Wrth siarad â’r wasg heddiw, dywedodd Catrin Brooks fod yr Urdd wedi bod yn gyfrifol am fagu ei thalentau perfformio hithau.

“Gyda llaw ar fy nghalon, alla’i ddweud mai’r Urdd sydd wedi fy siapio i er mwyn gallu bod yma o’ch blaen chi heddiw, a nid fi yw’r unig un,” meddai.

“Lle arall fyddech chi’n gweld plentyn wyth oed yn camu i’r llwyfan i ganu cân neu adrodd gerdd o flaen miloedd o bobol?”

Mwy o gyfle i’r Cymry

Yn ddiweddar mae Côr Glanaethwy wedi serennu ar raglen deledu Britain’s Got Talent, gyda nifer o aelodau’r côr yn gystadleuwyr cyson yn Eisteddfod yr Urdd.

Ond ar y cyfan, yn ôl Catrin Brooks, mae pobol ifanc Cymru yn cael llawer mwy o lwyfannau i ddangos eu talentau na’u cyfoedion mewn rhannau eraill o Brydain.

“Oce, mae’r X Factor i gael, a Britain’s Got Talent nawr,” meddai’r cynhyrchydd a’r actores.

“Ond dy’n nhw [ y cystadleuwyr] ddim yn dod nôl y flwyddyn ganlynol, na’r flwyddyn wedyn, dro ar ôl tro, tan iddyn nhw fod yn rhy hen i gystadlu. Ac yna chamu i rôl yr hyfforddwr, trefnydd, yr aelod pwyllgor, dim ond i fod yn rhan o’r ffenomenon yna.

“Dy’n nhw ddim yn cael yr un peth â ry’n ni’n cael.”