Mae gyrrwr beic modur wedi cael ei ladd mewn damwain ffordd yn Sir Benfro yn gynnar bore ma.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad yn oriau man bore dydd Iau ar ôl i feic modur y dyn wyro oddi ar ffordd yr A4139 ym Mhenalyn ger Dinbych y Pysgod.
Bu farw yn y fan a’r lle.
Dywed Heddlu Dyfed Powys nad oedd cerbyd arall yn gysylltiedig â’r ddamwain a bod yn ffordd yn dal ynghau wrth i’w hymchwiliad barhau.
Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r ddamwain, neu unrhyw un a oedd wedi gweld y gyrrwr beic modur ar yr A4139 yn gyrru tuag at Penalyn ychydig cyn 1yb bore ma, i gysylltu â nhw ar 101.