Fe fydd dyn 20 oed yn mynd gerbron ynadon Merthyr heddiw ar ôl i fachgen saith oed gael ei daro gan feic modur cwad wrth iddo gerdded ym Mhontypridd ddydd Mawrth.

Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe gydag anafiadau difrifol i’w goes ar ôl y gwrthdrawiad yn Heol Telekeiber yn Nhrehopcyn, Pontypridd tua 6.05yh nos Fawrth.

Mae’r bachgen mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Cafodd y dyn oedd yn gyrru’r beic cwad glas ei arestio gan yr heddlu a bydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Merthyr heddiw.

Mae Heddlu’r De yn parhau i apelio am dystion i’r gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1500185685.