Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas wedi galw ar Gomisiynydd Heddlu Dyfed-Powys Christopher Salmon i ymddiheuro am beidio gwrthwynebu cael gwared ar hofrennydd yr heddlu a chau safle ym Mhen-bre.
Wrth alw am ymddiheuriad, dywedodd Rhodri Glyn Thomas y dylai’r Comisiynydd egluro’i safbwynt ynghylch y sefyllfa.
Daeth y wybodaeth i law Plaid Cymru trwy gais Rhyddid Gwybodaeth.
Mae model newydd Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu’n golygu na fydd hofrennydd Dyfed-Powys yn gweithredu o Ionawr 1 y flwyddyn nesaf.
Golyga hynny nad yw’r model arfaethedig yn gyson gyda’r cytundeb blaenorol i gadw safle Pen-bre ar agor.
Yn ôl Rhodri Glyn Thomas, nid oedd y Comisiynydd wedi cynnig “owns o wrthwynebiad i golli’r gwasanaeth sy’n gwasanaethu’r bobol mae ef i fod i’w cynrychioli”.
Ychwanegodd fod rhaid i’r Comisiynydd benderfynu a fyddai’n cadw’r Ceidwadwyr, sy’n torri cyllideb yr heddlu, yn dawel, neu a fyddai’n barod i ymuno â’r ymgyrch i warchod y gwasanaeth.
‘Cegrwth’
Mewn datganiad, dywedodd Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Rhodri Glyn Thomas: “Bydd trigolion Dyfed Powys yn gegrwth wrth glywed y wybodaeth ffrwydrol hon o gofnodion Bwrdd Strategol NPAS.
“O ystyried ei ddatganiadau cyhoeddus diweddar, mae hi bron yn anghredadwy fod y comisiynydd heddlu yn gyndyn i wrthwynebu colli’r hofrennydd heddlu.
“Dim ond chwe mis yn ôl cyhoeddodd y comisiynydd ffanfer mawr am ei fod wedi cyrraedd cytundeb i sicrhau dyfodol yr hofrennydd. Dri mis yn ddiweddarach, serch hynny, eisteddodd mewn cyfarfod gan wynebu newid yn y cytundeb hwnnw ond eto mae’r cofnodion yn awgrymu na gynigiodd owns o wrthwynebiad i golli’r gwasanaeth sy’n gwasanaethu’r bobl mae ef i fod i’w cynrychioli.”
Wrth ymateb, dywedodd Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, Christopher Salmon: “Rwy’n brwydro am y gwasanaeth heddlu awyr gorau posib i bobol Dyfed-Powys.
“Rwy’n parhau i drafod gyda’r Prif Gwnstabl – gyda’r NPAS – anghenion ein cymunedau.
“Ni fyddaf yn cytuno i gael unrhyw wasanaeth nad yw’n diwallu anghenion ein rhanbarth nac yn cyfateb i’r hyn yr ydym yn talu amdano.”