Mae bachgen saith oed wedi cael ei anafu’n ddifrifol ar ôl iddo fod mewn gwrthdrawiad a beic cwad wrth iddo gerdded ym Mhontypridd neithiwr.

Cafodd y bachgen ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys yn Abertawe yn dilyn y ddamwain yn Heol Telekeiber yn Nhrehopcyn, Pontypridd tua 6.05yh nos Fawrth, 26 Mai.

Mae’r bachgen mewn cyflwr sefydlog erbyn hyn.

Cafodd y dyn oedd yn gyrru’r beic modur cwad ei arestio.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu’r ffordd yr oedd y beic cwad glas yn cael ei yrru cyn y ddamwain.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1500185685.