Leighton Andrews yw’r cyntaf i ddweud y byddai’n gwrthod codiad cyflog o £10,000 fel Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, yn ôl Wales Online.

Dywedodd Andrews y byddai’n rhoi’r arian ychwanegol i elusennau yn ei etholaeth yn y Rhondda pe bai’n cael ei ail-ethol i’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Mae Andrews ymhlith chwech o aelodau’r Cynulliad sydd wedi gwrthod y cynlluniau arfaethedig – gyda rhai yn rhoi’r arian i elusennau a’r gweddill yn ei wrthod yn gyfangwbl.

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood – fydd yn sefyll yn erbyn Leighton Andrews yn Y Rhondda – yn un o’r rhai eraill sydd wedi dweud na fydd hi’n derbyn y codiad cyflog.

Fel Aelod Cynulliad, byddai Leighton Andrews yn derbyn £64,000 ond fe fyddai ei gyflog fel Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus yn codi o £96,340 i £100,000 o dan y cynlluniau.

Mae Lindsay Whittle a Bethan Jenkins (Plaid Cymru) wedi dweud y bydden nhw’n gwrthod y codiad cyflog, tra bod Kirsty Williams ac Aled Roberts (Democratiaid Rhyddfrydol) a Nick Ramsay (Ceidwadwyr) wedi dweud y bydden nhw’n rhoi’r arian i elusennau.