Mae grŵp cymunedol yn Nyffryn Nantlle wedi lansio ymgyrch i gadw un o lyfrgelloedd mwyaf prysur Gwynedd ar agor.
Yn ôl Grŵp Dyffryn Nantlle 2020, sydd y tu ôl i’r ymgyrch, Llyfrgell Penygroes oedd â’r canran ucha’ yn y sir o blant wnaeth ddefnyddio’r llyfrgell i helpu gyda’u gwaith cartref y llynedd.
Roedd hefyd yn gyntaf neu’n ail o ran y cynnydd mewn benthyciadau llyfrau i blant ac oedolion yn ogystal â’r defnydd o gyfrifiaduron.
Ond mae pryderon y bydd y llyfrgell yn cau fel rhan o gynllun gan Gyngor Gwynedd i gau hanner llyfrgelloedd y sir er mwyn arbed £50 miliwn dros y tair blynedd nesa’.
Protest
Daw’r ymgyrch wedi protest gan y grŵp ar ddechrau’r flwyddyn i wrthwynebu’r cynlluniau posib i gau.
“Bydd cau’r llyfrgell yn cael effaith anferth ar y rhai mwya’ bregus yn y dyffryn, yn arbennig plant,” meddai Sandra Roberts Cadeirydd Dyffryn Nantlle 2020.
“Llynedd roedd y canran o blant a ddefnyddiai’r llyfrgell i helpu gyda’u gwaith cartref yr uchaf yng Ngwynedd, ac ail o ddefnydd cyfrifiaduron,” meddai Sandra.
Ychwanegodd Ben Gregory sy’n aelod o’r grŵp na fydd pob un yn yr ardal yn medru fforddio teithio i Gaernarfon i ddefnyddio’r llyfrgell agosa’.
“Y gwir yw y bydd pobol yn Nyffryn Nantlle yn stopio defnyddio’r gwasanaeth os bydd y llyfrgell yn cau,” meddai.
Bydd ymgynghoriad ar gau’r llyfrgell yn cael ei gynnal ar y pumed o Fehefin ym Mhenygroes.