Adam Price
Mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru yn galw am ymchwiliad annibynnol i dranc y cwmni technoleg a gafodd ei sefydlu gan y cyn-Aelod Seneddol Adam Price a’r Americanwr Andrew Aurebach.

Yr wythnos hon mae’r mater wedi ei drosglwyddo i ddwylo’r Archwilydd Cyffredinol wrth i’r Ceidwadwyr fynnu ymchwiliad i waith ymgynghorwyr y llywodraeth yn cefnogi’r cwmni.

Ac mae cylchgrawn Golwg wedi datgelu bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy na £180,000 o arian cyhoeddus i’r cwmni, Ideoba.

Roedd hwnnw wedi addo creu 100 o swyddi ond mae newydd fynd i’r wal.

Ffigyrau

Hyd yn hyn, does dim cadarnhad cyhoeddus o faint o arian yr oedd y llywodraeth wedi’i roi i’r cwmni oedd yn bwriadu creu dyfeisiadau chwilio i wefannau.

Ond mae Golwg yn deall bod £181,297 wedi cael ei rhoi dros gyfnod o saith mis y llynedd.

Daeth y cwmni – a oedd yn cyflogi 10 o bobol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr – i ben fis diwethaf ar ôl ychydig dros flwyddyn.

Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, cafodd £52,997 ei fuddsoddi yn y cwmni ym mis Ebrill 2014, £59,496 ym mis Gorffennaf a £68,804 ym mis Hydref o’r un flwyddyn.

Ymateb

Dywedodd y llywodraeth ei bod hi’n “amhosib” dileu’r risg yn “gyfan gwbl” o golli arian wrth roi cyllid i gwmnïau.

Doedd Adam Price ddim eisiau gwneud sylw pan gysylltodd Golwg gydag ef.

Ar y pryd, yr esboniad am dranc y cwmni oedd methiant i ddenu rhagor o’r buddsoddiadau mawr oedd eu hangen.

Yn y pen draw, y gobaith oedd y byddai’r cwmni’n cyflogi 100 o bobol ac, yng ngeiriau Adam Price, yn symud de Cymru o “gloddio am lo” i “gloddio am ddata”.

Mwy am y stori yn Golwg yr wythnos yma.