Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod 135 o ddefaid mynydd wedi cael eu dwyn o fferm yn ardal Llanddewi Brefi yng Ngheredigion.

Cafodd y braidd ei dwyn o fferm Derrick Davies yn Llangwyrfon rhwng 1 Mawrth a 25 Mawrth, yn ôl yr heddlu, ond ni chafodd y drosedd ei chofnodi tan yr wythnos diwetha’.

Credir bod y defaid werth tua £18,000. Roedd pob un yn feichiog hefyd, gyda disgwyl iddyn nhw roi genedigaeth i rhwng 180-190 o wyn.

“Mae colli gymaint o ddefaid a hyn yn ergyd ariannol i’r perchennog,” meddai’r Rhingyll Nigel Jones.

“Byddai wedi golygu bod rhywun a cherbyd mawr wedi gorfod symud y defaid ac rwy’n apelio i’r cyhoedd i roi gwybod am unrhyw gerbydau amheus a welwyd yn yr ardal.”

Gofynnir i unrhyw un a gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar 101.