Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws
Bu Comisiynydd y Gymraeg yn annerch cynhadledd hawliau iaith yng Nghanada’r bore ‘ma.

Mae comisiynwyr o Ganada, Sri Lanka, De Affrica, Kosovo, Gwlad Belg, Iwerddon a Sbaen yn ymuno â Meri Huws ar gyfer y gynhadledd ddeuddydd yn Ottowa.

Fe ddywedodd Comisiynydd y Gymraeg mai’r un math o heriau sy’n wynebu pob un o’r ieithoedd brodorol a’u siaradwyr:

“Mewn gwahanol ffyrdd, rydym ni oll yn ceisio darbwyllo ein llywodraethau i weithredu polisi ieithoedd swyddogol ac yn gweithio tuag at ddylanwadu ar ymddygiad ieithyddol unigolion a chymunedau,” meddai.

“Yn ystod yr wythnos buom yn trafod amrywiaeth eang o bynciau perthnasol, gan rannu profiadau am sut i orfodi cydymffurfiaeth â dyletswyddau iaith, a phwysigrwydd ymchwil a data er mwyn dylanwadu ar wneuthurwyr polisi.”

Gofal iechyd

Tra mae hi yn Ottowa, bydd Meri Huws hefyd yn siarad mewn cynhadledd ar iechyd a gofal cymdeithasol mewn cyd-destun dwyieithog, a gynhelir ar y cyd rhwng Consortiwm Cenedlaethol Hyfforddiant Iechyd yng Nghanada ac Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor.

Bydd yn trafod casgliadau ac argymhellion ei hadroddiad Fy Iaith, Fy Iechyd: Ymholiad i’r Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol, a’r gweithredu sydd ei angen er mwyn cynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol a chydnabod urddas cleifion.

Mae rhaglen lawn o’r gynhadledd yn Ottowa yma.